Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/109

Gwirwyd y dudalen hon

foesol a chrefyddol Cymru yn yr amser a fu. Datgennir yn groew mai cenedl o Ymneillduwyr ydyw y Cymry, a rhydd Mr. Richard yr hanes pa fodd y daethant i fod felly. Yr oedd yr Eglwys Sefydledig wedi cael y maes bron yn gwbl iddi ei hun. Ond sut y darfu iddi drin y maes? Rhoddir dyfyniadau o lyfrau yr Eglwyswyr eu hunain i ddangos y cyflwr isel, o ran gwybodaeth a moes, yr oedd y Cymry wedi syrthio iddo o dan eu dwylaw. Dengys yn yr ail lythyr fod yr Eglwys, nid yn unig wedi esgeuluso ei dyledswydd, ond fod ei chlerigwyr wedi gwrthweithio pob ymgais ar ran ereill i wella sefyllfa pethau. Felly y gwnaethant gyda'r Puritaniaid, yr Anghydffurfwyr, a'r Methodistiaid. Dygir ymlaen brofion diymwad o hyn, sef o erledigaethau y clerigwyr, profion nad oes un Cymro darllengar heb wybod am danynt, er na wyr y Saeson nemawr am y pethau hyn yn ein hanes. Ie, dywed Mr. Richard nad ydoedd yr ysbryd erlidgar wedi llwyr ddarfod eto, ond ei fod yn cymeryd ffurf arall; a noda engraifft o wraig foneddig, rhyw ddeng mlynedd cyn hynny, yn troi tenantiaid allan o'u ffermydd am nad oeddent yn Eglwyswyr. Ac eto, y mae clerigwyr yn awr, meddai, yn galaru na wnai y Cymry ddychwelyd yn ol i "fynwes eu mam ysbrydol!" Na, ni fu yr