Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/112

Gwirwyd y dudalen hon

ymysg y Saeson am lenyddiaeth Gymraeg y Dywysogaeth. Prin y credent fod gan y Cymry lenyddiaeth o gwbl. Dengys Mr. Richard fod y pryd hwnnw 25 o fisolion ac wyth o wythnosolion yn yr iaith Gymraeg, a'u cylchrediad yn 120,000 o gopiau. Nodai yr Esboniadau a'r llyfrau ereill a ddeuent allan o'r Wasg yn ein hiaith, a'r llyfrau cerddorol a barddonol; a dengys, trwy gyfrifon manwl, fod y Cymry yn tra rhagori ar y Saeson, o'r un dosbarth, yn nifer y llyfrau buddiol a ddarllennent.

Mae dylanwad daionus yr Eisteddfod hefyd yn cael ei drin yn y chweched llythyr. Yr oedd Matthew Arnold wedi dweud mai "math o gyfarfod Olympaidd oedd yr Eisteddfod;" ac yr oedd y ffaith fod y Cymry yn cymeryd dyddordeb ynddynt yn profi fod rhywbeth Groegaidd yn eu cyfansoddiad.

Ond yr hyn y ceisid cyhuddo y Cymry yn rhy fynych o hono oedd eu hanfoesoldeb, ac y mae Mr. Richard, yn ei seithfed lythyr, yn chwalu y cyhuddiad hwn i'r pedwar gwynt. Dengys eu bod yn fwy rhydd oddi wrth droseddau o bob math na'r Saeson; dwg dystiolaethau a ffigyrau di-os i brofi ei fater, ac, yn ei wythfed lythyr, y mae yn myned i mewn yn fanwl i'r cwestiwn o