Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/113

Gwirwyd y dudalen hon

aniweirdeb Cymru, a phrofa ei bod yn sefyll yn is, o gryn dipyn, na chyfartaledd Lloegr, hyd yn oed yn y peth hwnnw ag y mae y Saeson wedi bod, ac ydynt eto, yn rhy barod i daflu i'n gwynebau. Dywed, gydag effaith arbennig, mai arf beryglus i'w harfer ydyw y cyhuddiad yn erbyn Ymneillduaeth Cymru fod aniweirdeb yn ffynnu yn fawr yn eu mysg; oblegid, dengys, os ydyw yn ffaith fod 6-9 y cant o'r genedigaethau yn rhai anghyfreithlawn yn profi fod dysgeidiaeth yr Ymneillduwyr yn cynhyrchu anfoesoldeb, yna y mae y ffaith fod yn Cumberland, lle y mae yr Eglwys fwyaf blodeuog, 12 y cant o'r genedigaethau yn rhai anghyfreithlawn, yn profi fod dysgeidiaeth yr Eglwys gymaint arall yn fwy anfoesol.

Cymerir y nawfed llythyr i fyny i drin y cwestiwn o haelioni y Cymry. Yn y mater hwn y mae Cymru Ymneillduol yn sefyll yn uchel iawn. Yr oeddent wedi codi 3,000 o Addoldai, ac os rhoddid dim ond 500p. fel cost pob un, yr oedd yn dod i fwy na miliwn a hanner o bunnau. Cyfrifai fod yr Ymneillduwyr yn cyfrannu at draul eu Capelau, ac achosion ereill; ddim llai na 300,000p. yn y flwyddyn. A dylid cofio fod y boneddwyr cyfoethog, oll o'r bron, yn Eglwyswyr. Mewn