Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/124

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VII

Yn dod yn Aelod Seneddol—Ysgriw y tir-feddianwyr –Ei araeth gyntaf yn y Senedd a'i heffeithiau—y gronfa i gynhorthwyo y tenantiaid—Ei areithiau ar y pwnc o Addysg yn y Senedd.

(1868) Yr oedd llawer o gydwladwyr Mr. Richard wedi teimlo ers talm y dylasai fod yn Aelod Seneddol dros ryw barth o Gymru: Meddai gymhwysterau arbennig at y gwaith, ac yr oedd yn "caru ein cenedl ni." Ysgrifenwyd awgrymiadau i'r Amserau dro ar ol tro, yn galw sylw at hyn, gan ysgrifennydd y llinellau hyn, a chan ereill. Mewn cyfarfod yn Aberaeron, lle yr oedd Mr. Richard yn bresennol, wrth gynghori y Cymry i ddanfon dynion iawn i'r Senedd, troes Mr. Miall at Mr. Richard, gan ddweud, "Dyma eich dyn." Yn 1865, cynhygiodd Mr. Richard ei hun i'w sir enedigol, ac y mae pob lle i gredu, pe na buasai wedi tynnu yn ol, o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn y Traethodydd am 1865, at y rhai yr ydym, mewn nodyn blaenorol, wedi cyfeirio (t.d. 100), y cawsai ei ddewis. Pa fodd bynnag, yn etholiad 1868, pan roddwyd aelod ychwanegol i Ferthyr,