Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/125

Gwirwyd y dudalen hon

etholwyd ef trwy fwyafrif mawr. Yr aelod blaenorol oedd yr Anrhydeddus H. A. Bruce, Rhyddfrydwr cymhedrol, a dyn rhagorol. Tybiodd meistriaid y gweithfeydd y gallasent gario y ddwy sedd, ond gwnaethant ymgais o blaid Mr. Fothergill yn bennaf, er mwyn cau allan Mr. Richard, tybient hwy. Ond yr oedd Mr. Richard yn anwyl gan y bobl, safasai o'u plaid yng ngwydd y Saeson pan warthruddwyd hwynt, ac yr oedd ei egwyddorion yr un yn hollol ag eiddo y mwyafrif mawr o honynt. Nid rhyfedd, gan hynny, i ffrwd o frwdfrydedd godi o'i blaid ag oedd yn cario popeth o'i flaen. Fel hyn yr ysgrifennid yn y Nonconformist ar y pryd,-

"Mae ymgyrch Mr. Richard yn ymgyrch buddugwr. Mae brwdfrydedd y bobl o'i blaid yn fawr dros ben. Llenwir yr adeiladau mwyaf y gellir eu cael. Derbynnir anerchiadau Mr. Richard, y rhai sydd mewn rhan yn y Saesneg, ac mewn rhan yn y Gymraeg, yn galonnog, ac y mae y penderfyniad i'w ddychwelyd yn unfrydol. Mewn pedwar o'r cyfarfodydd, mynnai y bobl dynnu s ceffylau o'r cerbyd, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad, a llusgo Mr. a Mrs. Richard ynddo, trwy'r heolydd, i dŷ Mr. a Mrs. Davies, Maes y Ffynnon, lle yr oeddent yn aros. Nos Wener, ar y ffordd i Hirwaen, cyfarfu torf fawr â hwynt tua thri chwarter milltir o'r dref, gyda banerau a seindorf, a llusywyd y cerbyd i'r dref gyda banllefau uchel. Yn anffodus, nid oedd un adeilad