Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/130

Gwirwyd y dudalen hon

Powell, yr aelod dros sir Aberteifi, ddirwasgu ei denantiaid; un arall oddiwrth W. Cottrell, mewn perthynas i denantiaid "Derry Ormond,"[1] at Mr. Rees Jones, Voelallt Factory, Llanddewibrefi, Yr oedd y gŵr hwn wedi meiddio pleidleisio yn groes i ewyllys y meistr, ac wedi cael rhybudd i adael ei ddaliad; ond dywedid wrtho y cawsai aros os talai 10 punt ychwaneg o ardreth, a phleidleisio dros ei feistr o hynny allan. Darllennodd Mr. Richard, fel hyn, lythyr ar ol llythyr, ac adroddodd ffeithiau diymwad, y naill ar ol y llall, i ddangos fel y gorthrymid y tenantiaid. Yr oedd yr holl fanylion o'i flaen ganddo ar bapur, yn rhoi hanes ugeiniau lawer o denantiaid wedi cael rhybudd fel hyn am bleidleisio yn ol eu cydwybodau, a phentyrrai hwynt ar ben y tirfeddianwyr yn ddiarbed, a danghosai y fath greulondeb oedd hynny mewn lluaws o amgylchiadau. Nid oedd dim deddf yn rhoi

hawl i'r tenant i gael yn ol yr arian a wariasai

  1. Digrifol ydyw darllen y llythyr hwn yn awr yn llawn yn Hansard, a sylwi ar y nifer o engreifftiau o gamsillebiaeth a gwallau ereill sydd ynddo, megys "as" yn lle "have," "interfeer" yn lle "interfere," "you refuses" yn lle "you refuse," ac yr ddiau nid difyr oedd darllen y llythyr fel yr oedd, a dodi y gair "sic" ar ol pob gwall; ac nid difyr, ychwaith, oedd i ysgrifennydd y llythyr weled ei anwybodaeth yn cael ei ddinoethi ger gwydd y deyrnas.