Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/131

Gwirwyd y dudalen hon

ar ei fferm, ac yr oedd troi dynion allan o'u ffermydd, o dan y fath amgylchiadau, nid yn unig yn ormes, ond yn lladrad cywilyddus. Yna aeth ymlaen i ddangos mor ffol oedd ym- ddygiadau fel hyn, a defnyddiodd am y waith gyntaf, meddir, yn y Senedd, yr hen ddiareb,— "Trech gwlad nag arglwydd." Wedi hynny, aeth ymlaen i ddangos mor rydd oddiwrth droseddau ydoedd Cymru, a dywedai nad oedd ymddygiad y tirfeddianwyr ond temtio'r bobl i fod yn droseddwyr y gyfraith. Danghosodd hefyd mai celwydd oedd y cyhuddiad a wneid fod y gweinidogion Ymneillduol yn arfer dylanwad anheg ar y bobl, a heriodd brawf o'r cyhuddiad. Yna, apeliai Mr. Richard am gyfiawnder a thegwch tuag at y ffermwyr diamddiffyn hyn. Yr oedd yn adnabod llawer o honynt yn dda,—

"A chan" (meddai wrth derfynnu), "fy mod yn eu hadnabod mor dda, y mae fy mynwes yn chwyddo mewn gofid a digllonnedd wrth weled y cyfryw ddynion yn cael eu mathru dan draed gan ryw fân dirfeddianwyr fel hyn. Yr wyf yn galw am gydymdeimlad ac amddiffyniad y Tŷ hwn ar eu rhan. Nid yw hynny yn llawer i'w ofyn oddiar eich llaw. Nid ydynt yn gofyn ond am i chwi beidio gadael i'r etholfraint a ymddiriedasoch iddynt gael ei droi yn offeryn poenydiad ar eu cydwybodau, a bod yn foddion gorthrwm a difrod ar eu hamgylchiadau. Mewn gair y maent yn gofyn, gyda golwg