Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/132

Gwirwyd y dudalen hon

ar yr hawliau yr ydych wedi eu rhoddi iddynt, neu yn hytrach y ddyledswydd a osodasoch arnynt—pwysigrwydd a chyfrifoldeb yr hon a deinilant—eu bod i gael caniatad i gyflawni y ddyledswydd honno yn ddi-ofn ac yn anibynnol, fel rhydd-ddinasyddion gwlad rydd."

Hawdd y gellir dychmygu fod yr araeth hon wedi creu cyft'ro mawr ymysg tirfeddianwyr y Tŷ. Dyma'r tro cyntaf iddynt gael eu galw fel hyn " o flaen eu gwell " i ateb am eu traha. Y mae Mr. Edward Miall, yr hwn oedd yn y Tŷ ar y pryd, yn dweud fod desgrifiad Mr. Richard o'r Cymry, eu gwybod- aeth am wleidyddiaeth, a'u teimladau dwfn, wedi peri syndod mawr. Fel y nodai engraifft ar ol engraifft o orthrwm y tirfeistriaid, yr oedd teimlad digofus yn eglur godi. Pan y desgrifiai, gyda theimlad dwys, ymadawiad ffermwyr o'u hen gartrefi, ceisiodd rhai wawdio, ond buont yn aflwyddiannus, oblegid yr oedd Mr. Richard wedi ennill "clust y Tŷ."

Dywedai y diweddar Syr George Osborne Morgan, yr hwn a draddododd araeth ardderchog yn cefnogi cynhygiad Mr. Richard, fod effaith yr araeth, nid yn unig ar ei gefnogwyr, ond ar ei wrthwynebwyr, yn wir aruthrol; a bod edrych ar wynebau y rhai yr ymosodai arnynt yn olygfa gwerth ei