Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/133

Gwirwyd y dudalen hon

gweled; a bod y gair ar led am un cyniychiolydd tra pharchus, ei fod bron wedi llyncu ei gadach poced. Pan eisteddodd Mr. Richard i lawr y noson honno, yr oedd dau beth yn amlwg, sef fod Cymru o'r diwedd wedi cael gwir gynrychiolydd, a bod Mr. Richard wedi sicrhau ei enwogrwydd Seneddol. Mae yn ddiau fod yr hyn a ddygwyd i'r goleu y pryd hwnnw wedi gwneud llawer er paratoi y íFordd i ddygiad mesur i mewn i ddiogelu yr etholwyr trwy foddion y tugel, yr hwn, ar ol hir frwydro, a basiodd yn 1871.

Fel y noda Mr. Richard yn yr Ol-ysgrif i'r Llythyrau y cyfeiriasom atynt, t.d. 103, ffurfiwyd, yn niwedd 1869, gronfa i gynorthwyo y rhai a drowyd allan o'u ffermydd, a gwnaeth Mr. Richard ei ran ymhob modd i hyrwyddo y symudiad, trwy gynnal cyfarfodydd mewn gwahanol barthau o Gymru a threfydd Lloegr. Yr oedd ei areithiau yn y cyfarfodydd hyn yn frwdfrydig iawn. Nid yn fuan yr anghofiwn ef mewn cyfarfod yn Lerpwl, pan yn desgrifo y gwahaniaeth rhwng y Cymry a'r Gwyddelod yng ngwyneb gorthrwm y meistr tir, ac yn pwysleisio y geiriau,—We don't tumble our landlords. Casglwyd rhai miloedd o bunnau fel hyn i gynorthwyo y tenantiaid gorthrymedig.