Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/136

Gwirwyd y dudalen hon

mawr oeddent, ac ni wnaeth hynny ond ychwanegu ei barch tuag atynt, er ei fod ar un adeg, ar ol hynny, wedi ffromi yn fawr wrth Mr. Miall, tymher yr hwn oedd yn fwy chwerw nag eiddo Mr. Richard. Yr oedd un newyddiadur yn sylwi ar y pryd fod Mr. Gladstone ar fwrdd llestr gyda'r Cobden Club yn myned i Greenwich, a phan welodd Mr. Richard yn eistedd yn wylaidd ymhen ol y llestr, ei fod wedi myned ato ac ysgwyd llaw âg ef, ac eistedd wrth ei ochr, ac ymgomio yn hir ac yn hamddenol âg ef. Dyna fel y gall gwŷr bob amser ymddwyn. Meddai Mr. Gladstone, yn ddiau, barch dwfn i onestrwydd a chydwybodolrwydd Mr. Richard. Yr oedd gwybodaeth drwyadl Mr. Richard o'r holl ffeithiau ynglŷn â phob pwnc a ddygai ymlaen yn y Senedd, ei allu ymresymiadol clir, ei barch i egwyddorion Cristionogaeth, unplygrwydd ei amcan, a'i ymlyniad diwyro wrth ei argyhoeddiadau, yn rhwym o ennill cymeradwyaeth gŵr o gymeriad Mr. Gladstone. Anaml y codai i siarad ar ol Mr. Richard heb dalu teyrnged o barch iddo, hyd yn oed pan yn trin y pwnc o Heddwch. Yn wir, nid ydym heb feddwl fod ganddo lawer iawn o gydymdeimlad â'i syniadau.