Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/138

Gwirwyd y dudalen hon

yr un modd. Cynhygiai Gweinyddiaeth Mr. Gladstone wneud gostyngiad yn y treuliadau ar y fyddin o 1,136,000p., a 12,308 yn nifer y milwyr, ac yn y llynges ostyngiad o 746,111p., yn gwneud o gwbl 1,883,000p. yn llai na'r flwyddyn flaenorol.[1] Cyfeiriai y Frenhines hefyd, gyda llawenydd, yn yr Araeth ar agoriad y Senedd at yr arferiad oedd yn ymddangos, fel ar gynydd, o gyflwyno cwestiynau dyrus rhwng gwledydd i benderfyniad cyflafareddwyr.

Ond yn amser heddwch, nid oes nemawr o sylw yn cael ei wneud o Ymherawdwyr a Brenhinoedd, ac y mae y byddinoedd a'r llyngesoedd, y rhai ydynt eu tegannau chwareu, yn colli eu dylanwad. Yn anisgwyliadwy, ar ryw gyfrif, er fod y teimladau drwg yn croni, ac yn bygwth torri allan, tarawyd Ewrob â syndod cyn i Senedd-dymor y flwyddyn hon ddod i ben, trwy i ryfel dorri allan rhwng Ffrainc a Ger- mani. Mae Mr. Richard, yn y papur a olygai, yn desgrifio yr amgylchiad yn y geiriau a ganlyn,—

  1. Y mae Mr. Richard wrth ysgrifennu ar hyn, yn galw sylw at y ffaith bwysig nad oedd, er hynny, ddim gostyngiad yu nifer y Swyddogion milwrol yn y fyddin a'r llynges, y rhai oeddent yn parhau i dderbyn symiau mawrion am wasanaeth ddychmygol. Yn wir, codai y dosbarth hwn eu llef yn uchel yu erbyn y gostyngiad.