Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/143

Gwirwyd y dudalen hon

aelod gostyngedig Cyfeiriodd at eiriau Arglwydd John Russell ac Arglwydd Derby i ddangos fel yr enynwyd ysbryd rhyfel rhwng gwledydd trwy ymadroddion annoeth a chythruddol, a dywedai nad oedd ganddo ef un gronyn o dosturi i'w hebgor tuag at y ddwy lywodraeth oedd yn ymladd a'u gilydd,—

"Rhaid i mi," meddai, "gadw fy nosturi i'r miliynnau deiliaid o'u heiddynt oedd yn dioddef cymaint oherwydd eu cynghorau balch hwy. Yr wyf yn meddwl am y degau o filoedd o wyr ieuainc Ewrob a hyrddir i'w beddau cyn eu hanser; am y myrddiyunau o gartrefi, oedd hyd yma yn ddedwydd, a len wir â thristwch ac anghyfanedd-dra; am y lluaws pobloedd ar bobtu y Rhine oedd yn foddlawn i aros yn dawel a chymydogol gyda'u gilydd pe gadawsid iddynt, ond y rhai y cyffroir eu calonnau bellach gan nwydau gwenwynig, digofus, ac anghristionogol."

Credai fod dosbarth gweithiol y wlad hon o blaid anymyriad, a diolchai yn gynnes i Mr. Gladstone am ei benderfyniad i gadw y wlad hon yn glir o'r helynt

Cadwai Mr. Richard y cwestiwn fel hyn o flaen y bobl yn barhaus, a gwasgai adref, trwy y Wasg, y gwersi y dylesid eu dysgu oddiwrth y rhyfel. Gan fod yn ffyddlon i bwysigrwydd yr ystyriaeth, ni adawai i'w ddarllenwyr anghofio mai y darpariadau milwrol oedd wedi dwyn y