Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/145

Gwirwyd y dudalen hon

gilydd, a dymunent wneud pob dyn ieuanc yn filwr. Ac y mae yn hawdd credu hynny, oblegid onid dyna oedd y cri a godwyd yn y deyrnas hon, yn ddiweddar, yn ein hymdrechfa â'r Transvaal? Gwyn fyd na fyddai ysgrifeniadau Mr. Richard ar y mater yn cael eu gwasgaru led-led y wlad.

Yr ydym yn cael fod Mr. Richard, ar y 24ain o Fedi, yn areithio mewn cyfarfod mawr yn Newcastle. Yr oedd y rhyfel yn peri fod rhai yn gofyn yn ddiystyrllyd yn y papurau,— "Beth y mae y Gymdeithas Heddwch yn ei ddweud bellach?" Mae Mr. Richard yn ateb y buasai yn well i'r byd erbyn hynny pe talasai fwy o sylw i'r hyn a ddwedid gan y Gymdeithas honno,—

"Chwi welwch," meddai, gan droi ar y cyhuddwyr, beth y mae Cymdeithas Rhyfel yn gallu ei wneud, yn y 250,000 o wyr sydd, yn ol y papurau, yn gorwedd yn gelaneddau ar y ddaear, neu wedi eu hanafu am eu hoes. Chwi welwch waith y Gymdeithas Rhyfel yn y "milltiroedd o ing"—ymadrodd tarawiadol a fathwyd gan y Dr. Russell, gohebydd y Times —sydd yn gorwedd yn yr yspyttai â'r tai ar lannau y Rhine a'r Moselle, yn y tai anrheithiedig a thruenus yn Ffrainc a Germani, lle y mae gwragedd torcalonnus yn disgwyl yn ofer am tadau, y gwŷr, y meibion, y brodyr, y rhai a dorrwyd i lawr yng nghanol eu cryfder, nid gan law natur, na barn Duw, ond gan law ddrygionus ac ynfyd eu cyd-ddyn. Chwi welwch