Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/146

Gwirwyd y dudalen hon

waith y Gymdeithas Rhyfel yn y meusydd a ddifrodwyd, yn y pentrefi a losgwyd, ac a ddrylliwyd ar du dwyreiniol a gogleddol Ffrainc, lle y gwelir y trigolion anffodus yn ymlwybro mewn dychryn yng nghanol adfeilion eu tai, ac yn danfon cri o ing, ac apel at genhedloedd Ewrob i ddod i'w cynhorthwyo, am fod pob moddion cynhaliaeth wedi eu dinistrio, rhag iddynt drengu o newyn a haint. Dyma fuddugoliaethau y Gymdeithas Rhyfel, ac yng nghanol y fath amgylchiadau a hyn, hwyrach y gwrandewch ar lais Cymdeithas Heddwch gyda rhyw gymaint o barch. A pha beth a ddywed y Gymdeithas honno? Dywed fod moddion gwell, doethach, mwy rhesymol, mwy dyngarol, mwy Cristionogol, i derfynnu cwerylon rhwng cenhedloedd na'r drefn hon o osod dynion i lofruddio eu gilydd; oblegid, dwedwch yr hyn a fynnoch, nid ydyw rhyfel yn ddim amgen na llofruddiaeth ar raddfa eang. Dywed nad yw y byddinoedd hyn yn ddim amgen na'r ffolineb mwyaf, gan nad ydynt yn diogelu heddwch. Yr oedd pum miliwn o filwyr yn Ewrob, ac yr oedd efe (Mr. Richard) yn gwrthdystio yn eu herbyn am eu bod yn peryglu heddwch Ewrob."

Yn ystod yr araeth hon danghosodd Mr. Richard ynfydrwydd y cydymgais rhwng gwahanol wledydd mewn darpar arfau milwrol trwy gymhariaeth syml, ac y mae yn werth ei dodi i lawr yma,—

"Tybier," meddai, "fod dau ddyn yn Newcastle, un yn bobydd, a'r llall yn gigydd, yn byw gyferbyn a'u gilydd yn yr un heol. Mae rhywun yn myned at un o'r