Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/147

Gwirwyd y dudalen hon

dynion hyn—y pobydd dyweder—ac yn ei berswadio fod y cigydd bwriadu gwneud rhyw niwed iddo. Mae y pobydd yn dweud wrtho ei hun, "Wel, nid wyf am osod fy hun yn agored i gynddeiriogrwydd y dyn yna," ac y mae ar unwaith yn hurio dyn, ac yn rhoi dryll iddo, ac yn peri iddo gerdded i fyny ac i lawr yr heol, a'i bwyntio at ei gymydog y tro cyntaf y gwel fod hynny yn angenrheidiol. Dyna beth mae y pobydd yn ei wneud. Yna y mae y cigydd yn dweud, "Oh, wel, fe all mwy nag un chwareu y gamp yna;" ac y mae yntau yn llogi dyn, ac yn rhoi dryll yn ei law, ac yn peri iddo gerdded i fyny ac i lawr yr heol ar yr ochr aralı. Yna y mae y pobydd yn dweud, "Mi fynnaf fi ddau o ddynion," a'r cigydd yn dweud, "Mi fynnaf finnau ddau." "Mi fynnaf dri," medd y pobydd. "Os felly, ini fynnaf finnau dri," ebe y cigydd; ac felly y mae y ddau ynfytyn yn gwario eu harian i logi dynion, ac i brynnu llaw-ddrylliau. A'r hyn sydd yn hynod ydyw fod y ddau, yn ystod yr holl amser yma, yn masnachu â'u gilydd; y cigydd yn prynnu torthau y pobydd, a'r pobydd yn prynnu cig y cigydd. Dyna'n gymhwys yr hyn yr ydym ni yn ei wneud. Mae Ffrainc a Lloegr yn gwneud masnach helaeth â'u gilydd—diolch i Mr. Cobden am hynny—ac eto, tra yr newid nwyddau fel hyn, dywed ein llywodraethwyr fod yn rhaid iddynt gael degau o filoedd o ddynion, a threulio miliynnau lawer o arian, er mwyn rhwystro i'r Ffrancod a'r Saeson ruthro i yddfau eu gilydd."

Ond tra yr oedd y Cyfandir yn ferw drwyddo gan ryfel ofnadwy, dyma'r wlad hon yn cael ei gosod mewn perygl o gael ei chyffroi drwyddi gan ysbryd rhyfel. Yr oedd rhyfel y Crimea