Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/150

Gwirwyd y dudalen hon

werth tywallt diferyn o waed er ei fwyn. Cafodd Rwsia ei ffordd, i fesur; oblegid cyfarfu y Galluoedd yn Llundain, a gwnaed Cytundeb ar y mater. Fel hyn, dyma un o'r pethau a ystyriem yn hanfodol yn ein cweryl â Rwsia, ac yr ymladdasom mor ffyrnig er ei gyrhaeddyd, yn cael ei ysgubo ymaith gyda'r difrawder mwyaf. Mae Mr. Richard, mewn erthygl a ysgrifennodd yn 1872,[1] yn cyfeirio at y modd yr erlidiwyd pleidwyr Heddwch am wrthwynebu y rhyfel ynfyd hwn. Pan aeth efe, meddai, i Gaerdydd, i areithio yn ei erbyn, cyhuddid ef, mewn mur-lenni, o fod yn "Gennad Rwsia," a bu am awr a hanner yn ymdrechu â rhai a ddanfonwyd i'r cyfarfod i geisio boddi swn ei lais. "Ond pwy," gofynna, "sydd yn awr yn barod i amddiffyn y rhyfel hwnnw? Mae yr holl bethau yr ymladdwyd drostynt bellach wedi eu caniatau gan y Galluoedd hynny a ddygodd y rhyfel oddiamgylch." Pa ryfedd i Mr. Richard roddi y geiriau, "Pwy oedd yn iawn?" yn benawd i'w erthygl?

  1. Herald of Peace. Rhag. 2, 1872.