Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/154

Gwirwyd y dudalen hon

eu codi yn ei Esgobaeth er 1850, a 36 wedi eu helaethu. Ond yn yr un amser yr oedd yr Anibynwyr wedi codi 68 o gapelau, ac wedi ail- adeiladu a helaethu 46; y Bedyddwyr wedi adeiladu 67, ac ail-adeiladu a helaethu 40; y Methodistiaid Calfìnaidd wedi adeiladu 55, ac ail-adeiladu a helaethu 40. Hynny yw, yr oedd yr Anghydfíurfwyr o fewn yr Esgobaeth honno, er y flwyddyn 1850, wedi adeiladu 186 o addoldai newyddion ar gyfer 39 gan yr Eglwys; ac wedi ail-adeiladu a helaethu 127 ar gyfer 36 gan yr Eglwys. Ac nid oedd un amheuaeth nad allesid dweud pethau cyffelyb am Esgobaethau ereill.

Nid oes un amheuaeth nad oedd croniclo ffeithiau fel hyn, a'r rhai sydd eto yn werth eu gosod i lawr, er eu cadw mewn cof, yn peri mawr syndod i'r Seneddwyr—y rhai sydd bob amser mor anwybodus am sefyllfa pethau yng Nghymru—ac yn dangos tu hwnt i bob dadl, nad oedd Eglwys Sefydledig wedi bod yn llwyddiant yng Nghymru, pa fodd bynnag. A'r syndod yw, fod yn rhaid ail-nodi ffeithiau fel hyn o bryd i bryd, hyd yn oed yn awr, ac nad ydynt eto yn cael yr effaith a ddylent. Mae y ffeithiau, er hynny, yn anhyblyg, ac yn rhwym o "ddweud" yn y pen draw.

Collodd Mr. Miall ei gynhygiad trwy