Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/155

Gwirwyd y dudalen hon

fwyafrif o 374 yn erbyn 89. Ymysg y lleiafrif yr oedd deg o'r aelodau Cymreig.

Yn y flwyddyn hon (1871), y dygodd Mr. Forster Fesur y Tugel[1] i mewn. Ymladdodd y Toriaid yn ffyrnig yn erbyn y Mesur, ond pasiodd Dŷ y Cyffredin. Gwrthodwyd ef gan Dŷ yr Arglwyddi; ond yn y flwyddyn ganlynol, pa fodd bynnag, ni feiddiodd yr uchelwyr hyn ei wrthod. Profodd y wlad yn fwy trech na'r arglwyddi. Traddododd Mr. Richard araeth ragorol pan oedd y Mesur o flaen Ty y Cyffredin, a chymerodd achlysur i enwi esiamplau o orthrwm y meistri tir, yn ychwanegol at y rhai a ddygasai o flaen y Tŷ ar yr achlysur blaenorol. Crybwyllodd am wyth o denantiaid yn sir Aberteifi-Rhyddfrydwyr dewr-a drowyd o'u ffermydd; ac nid oedd hynny ond rhai, allan o'r llawer, a dioddefasant mewn amryw ffyrdd, oherwydd eu hegwyddorion politicaidd.

Yr oedd Mr. Richard yn gwneud ei hun yn ddefnyddiol mewn amryw ffyrdd heblaw yn y Senedd tua'r amser hwn. Yr oeddid yn galw am ei wasanaeth ar bob math o achlysuron bron. Yr ydym yn ei gael yn niwedd 1871 yn cadeirio yng nghyfarfod ymadawol y cerddor enwog, Mr. Joseph Parry, Mus. Bac., pan ar

fyned i'r America; hefyd mewn cyfarfod i longyfarch y Côr Cymreig oedd wedi cario y brif

  1. Pleidlais gudd