Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/157

Gwirwyd y dudalen hon

HENRY RICHARD, A.S. 139

(1872) Yn y flwyddyn 1872 y terfynwyd achos yr Alabama mewn modd ag oedd yn llawenydd calon i gyfeillion Heddwch. Gŵyr pawb, bellach mai llong oedd yr Alabama, a adeiladwyd yn Birkenhead gan y Mri. Laird yn amser y rhyfel rhwng De a Gogledd yr Unol Daleithiau. Adeiladwyd hi at wasanaeth y De. Danfonodd y Taleithiau Gogleddol at y wlad hon rybudd i'w hatal i fyned allan, neu ynte y delid ni yn gyfrifol am y difrod a wnai. Ond allan yr aeth, a gwnaeth ddinistr ofnadwy ar longau masnachol y Taleithìau Gogleddol. Daliodd a dinistriodd o gwbl 65 o longau. Ond dinistriwyd hithau o'r diwedd gan un o longau rhyfel y Gogledd. Yn 1862—3 cododd yr Unol Daleithiau y cwestiwn, a gofynasant am iawn am y dinistr a wnaeth yr Alabama a llongau ereill. Parodd hyn gyffro nid bychan yn y wlad hon. Gwadai Prydain ei chyfrifoldeb, a chrewyd teimladau chwerwon. Bu y peth o flaen y Tŷ, o dro i dro, am amser maith, a'r teimladau yn myned yn waeth-waeth. Heb i ni fanylu gyda golwg ar y gwahanol agweddau ar y ddadl ddyrus hon, digon yw dweud y bu Mr. Gladstone o'r diwedd yn ddigon doeth i gyflwyno y cwestiwn i gael ei benderfynnu gan Gyflafareddwyr. Cyfarfu y dirprwywyr dros y ddwy lywodraeth yn Geneva, a'r canlyniad fu, dyfarnu