Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/158

Gwirwyd y dudalen hon

fod Prydain ar fai, a bod iddi dalu 3,229,166p. o iawn.

Nid heb lawer iawn o helbul yr aeth y symudiad pwysig hwn drwodd. Yr oedd cynifer o gwestiynau dyrus ynglŷn âg ef, y teimladau yn uchel yn y ddwy wlad, y Wasg weithiau yn cyffroi y teimladau yn fwy, nes oedd ar rai eisieu taflu y cwbl i fyny, a gwrthod talu dim, gwnaed yr Unol Daleithiau eu gwaethaf. Nid nes eisieu dweud fod Mr. Richard yn bur bryderus, oblegid yr oedd ar fedr dwyn y pwnc o Gyflafareddiad o flaen y Tŷ y Senedd-dymor hwnnw, ond yn petruso hyd nes y terfynid achos pwysig yr Alabama. Teimlodd efe a'i gyfeillion mai gwell oedd oedi y cwestiwn hyd nes y byddai yr achos hwnnw wedi ei lwyr benderfynnu.

Ym mis Awst y flwyddyn hon (1872), traddododd Mr. Richard araeth yn y Tŷ yn erbyn cynllun Mr. Cardwell o sefydlu tua 60 neu 70 o ganol-fanau milwrol ar hyd y wlad, ac adeiladu lluestai iddynt, y rhai oeddent i gostio tua thair miliwn a hanner o bunnau. Gwrthwynebodd Mr. Richard y cynhygiad, nid yn unig ar gyfrif y gost, ac y tueddai i'n gwneud yn genedl o filwyr, ond yn bennaf oherwydd dylanwad anfoesol milwyr ym mhob lle y byddont. Dygodd brofion diymwad o'r modd yr oedd milwyr