Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/159

Gwirwyd y dudalen hon

yn llygru cymdogaethau lle yr ymsefydlent. Parodd araeth onest Mr. Richard gyfFro mawr ymysg y blaid íìlwrol, a cheisiodd rhai o honynt ei hateb, ond ni ddygasent un prawf yn erbyn fFeithiau Mr. Richard. Ymddanghosodd nifer o lythyrau yn y Times, a phapurau ereill, mewn canlyniad i'r araeth hon ; ond nid oedd un o honynt yn dymchwel y fFeithiau. Dywedai Mr. Richard mai y gwir ydoedd, fod y syniad milwrol am foesoldeb yn isel iawn. Addefai Syr Henry Storkes, swyddog yn Adran y Fyddin yn 1865, fod yn hawdd gwybod wrth edrych ar íilwyr fod lluaws o honynt yn dioddef o dan anhwylder arbennig, ac â ymlaen i ddweud,—"Fy marn i yw, na ddaw dim lles oddiwrth unrhyw foddion a ddyfeisir, hyd nes y bydd puteindra yn cael ei gydnabod fel peth o angenrheidrwydd." Ymddangosodd llythyr maith yn y Nonconformist ag oedd yn dadlennu gwir sefyllfa pethau, a chredwn y buasai yn well gan y swyddogion milwrol pe buasent wedi gadael haeriad cymhedrol Mr. Richard yn llonydd.

Ym mis Awst y flwyddyn hon,[1] cawn Mr.

Richard a'i wraig yn teithio trwy'r Iwerddon

  1. Mae Mr. C. S. Miall yn ei fyywgraffiad o Mr. Richard yn camgymeryd wrth osod y daith hon yn 1873.