Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/161

Gwirwyd y dudalen hon

anghyfreithlon ar filwr. Wedi iddo alw sylw at y peth yn ei araeth, cododd Syr John Pakington i ddweud fod y gyfraith yn un waradwyddus i'r deyrnas, ac fe'i diddymwyd mewn canlyniad.

Ar y 15 o Hydref, 1872,[1] yr ydym yn cael Mr. Richard yn bresennol ar agoriad Coleg Aberystwyth, ac yn traddodi araeth yno. Dywedai mai eu cam nesaf fyddai cael rhodd oddiwrth y llywodraeth. "Byddent," meddai, "yn foddlon pe caent bris dau o gyflegrau mawrion Armstrong."

Ond gwaith mawr Mr. Richard y tymor hwn oedd parotoi ar gyfer y cynhygiad a fwriadai ei ddwyn ger bron y Tŷ yn y mis Gorffennaf dyfodol. Mae y darn mawr hwn o waith bywyd Mr. Richard mor bwysig, ac wedi cynhyrchu y fath effeithiau yn y wlad hon ac ar y Cyfandir,

fel yr ydym yn rhoi pennod gyflawn iddo.

  1. Nid 1873 fel y dywed Dr. Miall.