Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/165

Gwirwyd y dudalen hon

yno Dŷ lled lawn, o tua 250 o aelodau, ac yr oedd bod orielau'r dieithriaid, hyd yn oed oriel y merched, yn llawn, yn dangos y dyddordeb mawr a deimlid yng nghynygiad Mr. Richard. Y cynhygiad oedd,—fod Anerchiad gostyngedig yn cael ei gyflwyno i'w Mawrhydi, yn erfyn ar fod iddi orchymyn i'w Phrif Weinidog Tramor i ymgynghori a'r Galluoedd Tramor gyda'r amcan o wella y gyfraith Ryngwladwriaethol, a sefydlu cyfundrefn o Gyflafareddiad. Siaradodd Mr. Richard am awr a deng munud, a chafodd wrandawiad parchus ac astud. Daeth Mr. Bright i mewn pan oedd yn dechreu ei araeth. Ni chymerodd ran ynddi. Yr oedd y ffaith ei fod wedi cymeryd swydd yn y Weinyddiaeth, yn fuan ar ol hynny, yn ddiau yn rhoi cyfrif am hyn. Bod ei galon o blaid Mr. Richard, nid oes un amheuaeth, ac nid yw yn anhebyg fod hyn wedi peri fod araeth Mr. Gladstone, mewn atebiad i Mr. Richard—pan gofiom mai Mr. Gladstone ydoedd yn ei thraddodi—dipyn yn amhenderfynnol ac amwys.

Ond gadewch i ni droi at araeth Mr. Richard, yr hon sydd yn awr o'n blaen. Wrth ystyried ei rhagoroldeb, a phwysigrwydd y testyn—prif destyn llafur ei fywyd—buasai yn dda gennym allu rhoddi dyfyniadau helaeth o honi, air yn