Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/166

Gwirwyd y dudalen hon

air; ond byddai ei darnio felly yn ei handwyo. Ceisiwn, pa fodd bynnag, roi syniad am ei chynhwysiad.

Ar ol gwneud sylwadau arweiniol, danghosodd fod y mater yn un tra phwysig, yn un uwch law pob cwestiwn plaid, yn un ag oedd yn seiliedig ar gyfiawnder, dyngarwch, a chrefydd; a bod dyddordeb mawr yn cael ei gymeryd ynddo gan bob dosbarth. Edrychai rhai arno ef fel yn perthyn i'r dosbarth o bobl oedd yn pleidio "heddwch am unrhyw bris," beth bynnag oedd hynny yn ei feddwl. Os y meddwl oedd fod y blaid honno yn cashau rhyfel, ac yn caru heddwch yn ormodol, yr oedd y cyhuddiad yn gorwedd yn esmwyth iawn ar ei gydwyhod. Yr oedd teyrnasoedd Cristionogol a gwareiddiedig, pan fyddai cweryl yn codi rhyngddynt, yn rhuthro i yddfau eu gilydd mewn modd barbaraidd, am nad oedd dim arall ond gallu anianyddol wedi ei ddarparu i derfynnu eu cwerylon. Casglent, gan hynny, yn naturiol, mai eu dyledswydd oedd darparu cymaint o'r gallu hwnnw, ag oedd modd, er cyrraedd eu hamcan. Y canlyniad ydoedd fod rhyw bedair neu bum miliwn o wŷr goreu Ewrob o dan arfau, ac felly gwesgid y gwahanol genhedloedd i'r llawr gan drethi trymion. Danghosodd, gyda manylder, fod y golled i Ewrob trwy hyn tua