Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/169

Gwirwyd y dudalen hon

fuasai un o'r pleidiau Seneddol yn meddu digon o wroldeb i ymgymeryd â'r gwaith ardderchog hwn. Yr oedd y byd yn dechreu blino ar ryfel; yr oedd y bobl yn gruddfan dan ei feichiau trymion. Crybwyllodd am lythyr a dderbyniasai oddiwrth wr enwog yn Ffrainc yn cyfeirio at yr anrhydedd a fuasai i Loegr ddechreu y gwaith hwn, a therfynodd gyda'r diweddglo hyawdl a ganlyn, diweddglo sydd yn dwyn i'n meddwl rai cyffelyb o eiddo John Bright,—

"Yr wyf, Syr, yn ymawyddu am geisio sicrhau yr anrhydedd o ddechreu y gwaith hwn i fy ngwlad fy hun. Mae rhai pobl yn ein cyhuddo ni, plaid Heddwch, o fod yn ddiofal, neu yn esgeulus am anrhydedd Lloegr. Yr wyf yn taflu y cyhuddiad yn ol, ac yn ei wrthod. Pa reswm posibl sydd gan y rhai sydd yn gwneud y cyhuddiad, ac sydd yn honni iddynt eu hunain y clod arbennig o fod yn wladgarwyr, dros garu Lloegr, ei hurddas, a'i gogoniant, nad ydym ninnau yn ei feddu i'r un graddau? Ai nid ydyw Lloegr yn wlad i ninnau hefyd, cartref ein llawenydd pan yn blant, lle beddrod ein tadau? Onid yw ei henw hi, a'i chymeriad, a'i mawredd hi, wedi eu cydwau â'n serchiadau tyneraf yn yr adgofion am y gorffennol, a'r dynmiadau am y dyfodol? Onid ydym ninnau hefyd yn teimlo ein bod yn cael ein dyrchafu gyda'i henwogrwydd, a'n darostwng gyda'i diraddiad P Wrth gwrs, gall fod gwahaniaeth barn mewn perthynas i'r hyn sydd yn cyfansoddi anrhydedd gwlad. Nid wyf fi yn credu mai anrhydedd gwlad ydyw ei bod yn hynod mewn gweithredoedd o drais a thywallt gwaed, er, pe