Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/172

Gwirwyd y dudalen hon

llais y bobl yn ddigon cryf i'w gario. Yr amheuaeth yma a barodd i mi ddod allan ar fath o bererindod yn Ewrob er mwyn gweled ai nid allwn gasglu prawf digonol i'w argyhoeddi nad oedd digon o sail i'w amheuon."

Dyna farn Mr. Richard ei hun ar araeth Mr. Gladstone. Pa fodd bynnag, cynhygiodd Mr. Gladstone y "cwestiwn blaenorol," a diau iddo gymeryd yn ganiataol y cymerasid ei gyngor gan Mr. Richard, ac y tynasai ei gynhygiad yn ol, gan ymfoddloni ar yr araeth ragorol a draddodasai, ac ar y ganmoliaeth a roddasai efe iddi, a dywedai fod Mr. Cobden wedi gwneud camgymeriad dybryd pan yn gwrthod cyngor Arglwydd Palmerston i'r perwyl hwnnw. Ond yr oedd Mr. Richard wedi gwneud y fath ddarpariadau yn y wlad ym mhob man, ac yn meddu y fath hyder yn llwyddiant ei achos, fel y gomeddodd gymeryd cyngor Mr. Gladstone. Profodd y canlyniad ei fod yn ei le. Er mawr lawenydd iddo ef a'i gyfeillion, a rhyw fesur o syndod hefyd, pan ranwyd y Tŷ, cafwyd nad oedd ond 88 o blaid y "cwestiwn blaenorol," a bod 98 yn erbyn. Rhoddwyd cynhygiad Mr. Richard wedi hynny o flaen y Tŷ, a chariwyd ef yn ddiwrthwynebiad.

Yr oedd yr oruchafiaeth hon o eiddo Mr. Richard yn llawenydd mawr i gyfeillion heddwch ym mhob man, nid yn unig yn y wlad hon,