Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/173

Gwirwyd y dudalen hon

ond ar Gyfandir Ewrob ac yn America; a chredwn fod Mr. Gladstone ei hun, yn nirgeloedd ei galon, yr un mor lawen. Derbyniodd Mr. Richard lythyrau oddiwrth rai o wŷr pennaf y Cyfandir yn ei longyfarch ar lwyddiant ei Gynhygiad. Ysgrifennai yr Anrhydeddus Charles Summer, Seneddwr yn yr Unol Daleithiau at Mr. Richard, a dywedai, ymysg pethau ereill, fod ei araeth yn creu cyfnod yn hanes achos mawr Cyflafareddiad,—

"Gwn," meddai, "na orffwyewch ar ol hyn, ond y bydd yr araeth hon o'ch eiddo, a'r canlyniad o honni, yn gwneud eich bywyd Seneddol yn un hanesyddol."

Siaradai y rhan fwyaf o'r papurau Seisnig yn uchel am araeth Mr. Richard, ac nid oedd ond ychydig, ar y cyfan, yn tueddu i wawdio. Pasiwyd penderfyniad o ddiolchgarwch i Mr. Richard gan Bwyllgor y Gymdeithas Heddwch, fel y gellid disgwyl. Cyfieithiwyd yr holl ddadl yn y Senedd i'r iaith Ffrengig a Germanaidd, a gwasgarwyd copiau ar y Cyfandir ym mhob man. Penderfynwyd hefyd danfon Mr. Richard ar daith i'r Cyfandir i ymweled â'r prif Aelodau Seneddol er hyrwyddo achos Heddwch.

Wedi talu rhai ymweliadau, a threfnu materion teuluaidd, cychwynodd Mr. a Mrs. Richard