Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/175

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XI

Taith Mr. Richard ar y Cyfandir yn achos Heddwch—Ei dderbyniad croesawgar yn Paris–Ei araeth ef, ac araeth M. Frederic Passy yno.

(1873) Parhaodd y daith ar y Cyfandir o'r 18fed o Fedi hyd y 23ain o Ragfyr, 1873. Aeth Mr. Richard yng nghyntaf i Brussels, lle y cafodd y pleser o adnewyddu ei gyfeillgarwch â'i hen gyfaill yn achos Heddwch, sef M. Visschers. Cafodd ef yn paratoi ar gyfer y Gynhadledd ynglŷn â Chyfraith Ryngwladwriaethol oedd i'w gynnal yn Brussels ym mis Medi. Cyfarfu yno â Mr. Dudley Field a'r Parch. J. B. Miles o'r Unol Daleithiau, y rhai oeddent yn gweithio yn yr un achos. Cyfarfu hefyd à M. Convreur, aelod parchus o Dŷ y Cynrychiolwyr, yr hwn a ddatganai ei benderfyniad i ddwyn y pwnc o Gyflafareddiad o flaen y Senedd mor fuan ag y byddai modd. Aeth oddi yno i'r Hague, Lle y derbyniwyd ef yn dra chroesawgar. Cludwyd ef a'i wraig mewn cerbyd gwych i gyfarfod mawr a gynhaliwyd mewn ystafell dra addurnedig,