Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/176

Gwirwyd y dudalen hon

lle yr oedd ei lun yn grogedig ar y mur. Traddodwyd yno areithiau llongyfarchiadol, a difyrwyd hwynt â cherddoriaeth. Addawodd dau Aelod Seneddol ddwyn y pwnc o Gyflafareddiad o flaen y Senedd. Aeth o'r Hague i Berlin. Gan nad oedd Senedd Germani na Phrwsia yn eistedd, ni fu yn ffodus i gyfarfod â llawer o'r rhai yr oedd yn awyddus i'w gweled, gan eu bod yn absennol o'r ddinas. Ond cyfarfu â rhai dynion enwog a dylanwadol yn y byd politicaidd, megys Dr Loueive, un o arweinwyr y blaid Ddiwygiadol, Herr Duncker, arweinydd y dosbarth gweithiol yn Prwsia, Proffeswr Heffter, cyfreithiwr enwog, hen ŵr pedwar ugain oed, ond mewn llawn feddiant o’i alluoedd meddyliol; ac yr oedd pob un o honynt mewn cydymdeimlad hollol âg amcan dyfodiad Mr. Richard. Aeth i Dresden, ac oddi yno i Vienna. Pan yno, cafodd wahoddiad taer i ddychwelyd i Brussels i'r Gynhadledd Gyfreithiol. Aeth yno, er y bu raid iddo deithio am 36 o oriau yn ddidor, Cyfarfu â rhai o oreugwyr y lle, yn ddoctoriaid, proffeswyr a seneddwyr, a chafodd gyfleustra i ddadleu ei achos ger eu bron. Nid oedd pawb yn unfryd unfarn ar y pwnc o Heddwch; ond pasiwyd penderfyniad o blaid yr egwyddor o Gyflafareddiad, er nad mewn geiriau mor gryf ag y buasai Mr. Richard ei hun yn dymuno