Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/177

Gwirwyd y dudalen hon

Parhaodd y Gynhadledd am dri diwrnod, a sefydlwyd Cymdeithas i ddiwygio a deddflyfru Cyfraith cenhedloedd. Cyflwynwyd Anerchiad i Mr. Richard am ei wasanaeth i achos Heddwch, a gwnaed gwledd fawr, yn yr hon yr oedd banerau pob gwlad yn chwifio. Ar ol hyn, dychwelodd Mr. Richard i Vienna. Cyfarfu yno â lluaws o gyfeiilion yr achos, ac yn eu mysg yr Anrhydeddus John Jay, y Llysgenhadwr Americanaidd yn Vienna, yr hwn, ar unwaith, a agorodd ei dŷ a'i galon i "Apostol Heddwch," ac a'i cynhorthwyodd ym mhob modd yn ei amcan. Dywed Mr. Richard nas gall byth anghofio caredigrwydd a chynhorthwy Dr. Leopold Neumann, aelod o'r Tŷ uchaf, Proffeswr Cyfraith yn yr Athrofa, Dr. F. X. Neumann a Baron de Rubeck, a lluaws ereill o ddynion dysgedig. Yn Pesth, cyfarfu â Dr. Deak, yr hwn a feddai ddylanwad mawr, a chafodd bob lle i gredu y byddai y pwnc o Gyflafareddiad yn cael ei ddwyn o flaen y Senedd yn Hungari ac Awstria.

Aethant oddiyno i Venice, lle y cynhaliwyd gwledd fawr er eu croesawu, ac wedi hynny i Milan, gan feddwl cael ychydig o orffwys wrth y y llynnoedd Italaidd; ond ar ol bod yno ychydig o oriau, cafodd Mr. Richard delegram oddiwrth Signor Mancini yn Rhufain, yn dweud ei fod