Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/178

Gwirwyd y dudalen hon

ymhen deuddydd am ddwyn penderfyniad o blaid Cyflafareddiad yn y Senedd Italaidd. Yr oedd y demtasiwn yn rhy fawr i Mr. Richard, a chychwynodd ar unwaith i Milan, a thrwy deithio ddydd a nos cyrhaeddodd i Rufain mewn pryd i fod yn dyst, ac mewn rhyw ystyr i gyfranogi o fuddugoliaeth M. Mancini, cynhygiad yr hwn a dderbyniwyd gan y Llywodraeth, a bleidleisiwyd drosto gan y Senedd yn unfrydol. Yr oedd Mr. Richard yn bresennol yn gwrando ar M. Mancini, a chyfieithai ei fab yng nghyfraith yr araeth i'r Ffrancaeg, yr hon iaith a ddeallai Mr. Richard ac a siaradai yn dda, er fod gorfod traddodi areithiau yn yr iaith honno ar achlysuron yn peri pryder mawr iddo. Cynhaliwyd gwledd fawr i'w groesawu hefyd, a thraddodwyd areithiau llongyfarchiadol iddo, a dywedwyd fod mantell Mr. Cobden wedi syrthio arno.

Dychwelodd Mr. Richard i Milan, lle y cyfarfu â lluaws o wŷr dylanwadol, ac y gwnaed gwledd ardderchog iddo, ac aeth drachefn i Turin. Ei amcan yn myned yno oedd cael gweled Count Selopis, Llywydd y Cyflafareddwyr a eisteddodd ar achos yr Alabama o fythol goffadwriaeth. Derbyniasant y croesaw mwyaf ganddo, a buont y rhan fwyaf o dridiau yn ei dý, a chyfarfuasant â boneddwyr a boneddigesau