Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/179

Gwirwyd y dudalen hon

o ddylanwad mawr. Yr oedd yn Turin foneddwyr ag oeddent yn awyddus i wneud gwledd i Mr. Richard, fel yn y mannau ereill; ond yr oedd wedi addaw treulio ychydig o ddyddiau yn Paris gyda'i gyfaill, M. Frederic Passy, ac o ganlyniad ymadawodd, a chyrhaeddodd brif-ddinas Ffrainc ar y 19eg o Ragfyr; ac ar yr 22ain cynhaliwyd gwledd ardderchog i'w groesawu, chyflwynwyd anerchiad tra phrydferth iddo. Fel hyn yr ysgrifenna gohebydd y Daily Telegraph, Rhagfyr 22ain, am y cyfarfod dyddorol hwn,—-

"Cymerodd un o'r digwyddiadau hynny le yn Paris heddyw ag sydd bob amser yn tynnu sylw. Mae bod Aelod Seneddol Seisnig yn gwneud araeth mewn gwledd gyhoeddus, ac yn tynnu areithiau ar ol y wledd allan o gynrychiolwyr Ffrengig, yn beth mor newydd yn y ddinas hon, fel y wae yn rhwym o fod mewn blas. Yr oedd cyfeillion Heddwch yn gwybod rai dyddiau cynt am ymweliad Mr. Henry Richard, gwron Heddwch trwy Gyflafareddiad, oherwydd y gwahoddiadau lawer a ddanfonwyd allan at enwogion dinas Paris. Felly cyfarfu tua deg a thriugain o lenorion a gwleidyddwyr yn y Grand Hotel i anrhydeddu Apostol Heddwch, yr hwn sydd mor adnabyddus. Yr oedd banerau Lloegr, Ffrainc, America, ac Itali, wedi eu gosod o amgylch tarian yn dwyn y geiriau,—Gorffennaf 8, 1873,' sef y dydd yr enillodd Mr. Richard y fuddugoliaeth hynod yn Nhŷ y Cyffredin. Y Cadeirydd oedd M. Renouard,