synied am natur eu teimladau wrth draddodi'r genadwri. Mi fuais weithiau, ebe efe, yn gwrando ar y counsellor yn dadleu rhyw achos yn y llys. Yr oedd ei lygaid yn llawn tân, a'i lais yn llawn dwysder a difrifwch, a chwi allasech feddwl yn ddiau fod y dyn yn teimlo yn ddwfn anghyffredin bob peth oedd yn perthyn i'r ddadl. Ac eto nid oedd y cwbl ddim ond artificial, dim ond cywreinrwydd a medr y dyn fel areithiwr; ac erbyn myned allan o'r llys, 'doedd e'n gofalu dim brwynen am y pynciau y bu yn ymresymu yn eu cylch mor brysur a thaer. O mae arnaf ofn mae rhyw dân dyeithr fel hyn sydd genym ninau yn fynych,—yn ymddangos pan o dan gynhyrfiad areithio fel pe b'ai ein heneidiau yn llawn o zel losgadwy, ond wedi i hyny fyned heibio, y cwbl yn cael edrych arno fel dyeithr-beth.
WRTH FLAENORIAID.
Wrth ymddiddan â blaenor, gofynai iddo, A ydyw edrych ar y pethau ni welir yn cynnyddu, a ydyw bod yn 'gadwedig yn gwrth-bwyso, pob peth arall yn eich meddwl? A ydyw y frwydr a llygredd eich calon yn parhau? Dylem ymddwyn at hwn fel at elyn o hyd, golygu at ei fywyd. Os ydych wedi derbyn gwir egwyddor o ras, nid sham-fight fydd hi rhyngoch chwi a phechod. Mae rhyw beth mewn gras am ladd pechod, ac y mae o bwys mawr eich bod chwi, fel swyddogion eglwysig, mewn gelyniaeth â phob pechod. Mae gan lawer o ddynion ryw bechod mynwesol yn cael ei gelu a'i lochesu yn y galon; a phan byddo hi felly ar flaenoriaid, maent yn gochelyd agoshau at y pechod hwnw yn eraill. Maent yn siarad yn uchel ac yn daranllyd am lawer o bethau drwg, ond y maent yn