mae rhai yn troi eu hwyneb atom o newydd. Mae ofn a chryndod yn fy meddwl rhag i'r Arglwydd fy ngadael yn y lle hwn yn gwmwl tywyll a diddwfr. Cofiwch am danaf yn aml o flaen gorsedd gras. Yr ydwyf yn dymuno fy nghofio at y cyfarfod misol yn garedig, a dyma fy neisyfiad penaf ganddynt, sef, O frodyr, gweddiwch drosof.' Os gwelwch yn dda, cofiwch fi at gymdeithasau Tregaron a Llangeitho, ac at Mrs. Richard, a'r rhai bychain oll; a gobeithio y bydd i chwi feddwl am Ffos-y-ffin ben y mis nesaf. Nac anghofiwch ysgrifenu ataf; bydd yn dda iawn genyf glywed oddiwrthych, a chael pob hanes o'r wlad.
Ydwyf eich annheilwng frawd,
D. EVANS
Y llall oedd mewn ateb i lythyr a anfonasai Mr. Richard ato ef, yr hwn, y mae yn ddrwg genym, sydd wedi myned ar ddifancoll.
FY ANWYL A PHARCHEDIG FRAWD,
Nis gallaf gael geiriau i osod allan y llawenydd a'r gorfoledd oedd genyf gael clywed oddiwrthych chwi a'ch teulu, a chael gwybod am amgylchiadau'r achos yn y wlad, yn nghyd a'r cynghorion gwerthfawr a buddiol a gefais. Teimlais fy ysbryd yn adfywio gronyn, a'm meddwl gwan yn cael ei gadarnhau a’i loni, yn ngwyneb mil o bethau sydd. ar fy llethu ynof fy hun, ac oddiwrth amgylchiadau ereill. . . . . Ni bu yn yr eglwys hon y fath bethau yn canlyn eu gilydd er ys llawer o flynyddau, a gobeithio na bydd mwy. Yr ydwyf yn wyneb yr holl bethau hyn yn mron llewygu a digaloni yn lân. Fy mrawd anwyl, cofiwch am