Tudalen:Emynau a'u Hawduriaid.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Emyn 71. Yn ailargraffiad Grawnsypiau Canaan y gwelsom ni gyntaf 71(1), "O! Arglwydd Dduw rhagluniaeth. . .", ac y mae yno o flaen ein hail bennill sydd yn eiddo Ann Griffiths, "Er cryfed ydyw'r gwyntoedd...".

Emyn 173. Tystiai'r Parch. Richard Jones, Aberangell, mai'r Parch. Rowland Jones, Llanwrin, ydoedd awdur "Unwaith am byth oedd ddigon..." Edrydd E. ab R[ichardson], Conwy, yn Y Drysorfa (Rhagfyr, 1855), ei fod ef yn fachgennyn un ar bymtheg oed yn teithio o'r Waunfawr i Gymdeithasfa yn y Bala, ac meddai ef, "Fel yr oeddem yn teithio ymlaen [tua Mynydd Migneint], clywsem ryw adsain beraidd, megis yn ehedfan gyda'r awel i'n cyfarfod, yr hyn a fu yn effeithiol i'n cyflymu tuag at oddiweddyd rhyw fintai sydd wedi ein blaenu, nes y daethom o'r diwedd i ddeall y geiriau, ac i allu eu canfod. Y pennill [a genid] ydoedd, "Unwaith am byth oedd ddigon..." Yr oedd y pennill yn adnabyddus i "finteioedd " mor gynnar â hynny, 1806.

Emyn 666. Dywaid Mr. E. J. Saunders, M.A., F.R.G.S., yn Rhamant y De, mai David George Jones, o Gapel Dewi, Sir Gaerfyrddin, a gyfansoddodd yr emyn poblogaidd, "Bydd myrdd o ryfeddodau..." Yn Y Drysorfa (Tachwedd, 1908, td. 516-517), dywedir: "Bu cryn lawer o ysgrifennu'n ddiweddar parthed awdur- iaeth yr emyn yn y Goleuad a phapurau eraill; ac erbyn hyn mae'n hysbys mai gŵr o'r enw D. George Jones, sir Gaerfyrddin, gyfan- soddodd y pennill. Bu farw oddeutu deugain mlynedd yn ôl, yn gant ond dwy oed; ac erbyn hyn y mae carreg brydferth wedi ei gosod ar ei fedd ym mynwent y plwyf yn Llanarthney, gyda'r hysbysiad mai'r gŵr sydd yn gorwedd dani yw awdwr y pennill, a chyda'r pennill ei hun wedi ei gerfio ar y garreg." Ac, ar garreg fedd yn Llannonn, Sir Aberteifi, y mae a ganlyn, "John Jones . . . a hunodd Ebrill 22, 1916, yn 75 oed. . . . Yr oedd yn fab i awdwr 'Bydd myrdd o ryfeddodau'." Dyfodiad ydoedd y John Jones hwn i Lannonn.

Emyn 758. Efelychiad yw'r emyn hwn o waith Frances Jane Crosby (Van Alstyne) a gollodd ei golygon yn chwech oed. Yr un wraig a gyfansoddodd

"Pass me not, O! gentle Saviour
Hear my humble cry. . . ."

"Paid â'm gadael, dirion Iesu,
Gwrando lais fy nghri...."

Emyn adnabyddus arall o'i heiddo ydyw

"Rescue the perishing,
Care for the dying. . . ."