Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/119

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diysbryd yn annirnadwy i'r dyn ysbrydlon, ac y mae gofid y dyn ysbrydlon yn annirnadwy i'r dyn diysbryd.

*

Buasai'n dda gennyf pe llwyddasai'r blaid orthrymedig i roi curfa i'r blaid orthrymol; er hynny, bydd yn well i'r Eifftiaid eu bod wedi ymladd yn aflwyddiannus na bod heb ymladd o gwbl. Cânt fwy o barch a mwy o freintiau hefyd nag oeddynt yn eu cael chwe mis yn ôl pan oedd Saeson yn edliw iddynt eu bod yn rhy wasaidd i ymladd am eu hawliau. Anturiais broffwydo yn fuan ar ôl y diwrnod y bu'r Saeson yn profi eu teganau newyddion; sef eu cadlongau a'u gynnau, o flaen Alexandria, y diystyrai'r papurau Seisnig esgus Mr. Gladstone cyn gynted ag y byddai'r chwarae' ar ben. Gŵyr y darllenydd yn ddiau mai hyn oedd esgus Beaconsfield y ' Rhyddfrydwr,' sef mai arweinydd plaid filwrol oedd Arabi, nad oedd yn cynrychioli nemor neb heblaw'r blaid honno, ac mai ef a'i dipyn plaid oedd holl achos yr helynt. Pa beth, erbyn hyn, a ddywed y ddau barchusaf o'r papurau Llundeinig: "Y gelod estronol, ac nid Arabi, oedd gwir achos y rhyfel," medd y Standard. Ac meddai gohebydd yr un papur ddoe ddiwethaf, sef Hydref 4ydd: "Dylid anghredu pob adroddiad a anfoner i