Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/135

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gennyf mai anghoethder ac anghelfyddyd yw dau fai pennaf pregethwyr ifainc a chanol oed Cymru. Os ydyw'n ddiogel imi hyderu ar adysgrifwyr a dynwaredwyr, byddai'n hawdd profi yn wyneb rheolau pwysicaf gramadeg ac areitheg, fod pregethwyr yr oes o'r blaen (ac y mae rhai ohonynt eto'n fyw yn yr oes hon) yn fwy celfydd na'r to presennol o bregethwyr, a bod eu llwyddiant i'w briodoli i fesur mawr i'w celfyddyd. Rhaid addef bod ganddynt wrandawyr coethach nag sydd gan bregethwyr yr oes hon, canys yr oeddynt yn ddarllenwyr dyfal ar y clasuron cysegredig; ond y mae lle i ofni nad yw eu hepil gan mwyaf, er llawned eu silffoedd, yn darllen dim yn y byd mwy clasurol na Thrysorfa y Plant a newyddiaduron Lerpwl. Gweli, gan hynny, y dichon ddyfod amser pan fydd pregethwr coeth yn anghyfaddas i wrandawyr Cymreig, a phan fydd yn rhaid iddo, er mwyn bod yn gymeradwy, ymdebygu mwy o ran syniadau ac arddull i swyddogion Byddin Iachawdwriaeth nag i Rowlands o Langeitho, a physgotwyr chwaethus Galilea.

Bydd y Cymry yn achanu'r rhan olaf o'u pregethau yn fwy na phregethwyr un genedl arall y gwn i amdani. Pan wnelont hynny'n gynnil, yn amldonog, ac yn gydwedd â'r ymadroddion, bydd