Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf I.djvu/157

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth baentio, nid yw'n anweddus i mi a'r darllenydd draethu a darllen ychydig amdano. Er mai Napoleon yn ei wendid a welwn yn Waterloo— Napoleon wedi colli ei wallt, wedi colli ei iechyd, wedi colli ei ynni, ac wedi colli mesur o'i gof hefyd; eto, fel mai Hannibal ydoedd Hannibal er i Scipio ei orchfygu ym mrwydr Zama, felly Napoleon ydoedd Napoleon er i Wellington a Blücher ei orchfygu yntau ym mrwydr Waterloo.

Nid brwydr ddiwethaf Napoleon oedd y frwydr gyntaf a gollodd o. Yr oedd y frwydr fawr benderfynol a'i hysigodd yn anaele wedi ei hymladd er ys un mis ar hugain cyn brwydr Waterloo. Fe brofwyd yn Rwsia y gallai natur ei orchfygu, ac fe brofwyd yn Leipsig y gallai dynion hefyd ei orchfygu; ac fe fu gwybod ei fod yn orchfygadwy yn gymorth i'w elynion i'w orchfygu yn Waterloo. Wrth weled ei fod wedi colli'r rhan fwyaf o'i hen sawdwyr yn eira Rwsia fe gytunodd y rhan fwyaf o alluoedd Ewrop i gasglu naw can mil o wŷr er mwyn ei lethu ym mherfeddion yr Almaen, ac wedi tridiau o ymladd tost, llwyddasant i wneud hynny. Y mae'n wir i Napoleon, trwy wahanu ei elynion, orfod arnynt mewn amryw o frwydrau ar ôl hynny, ond fe argyhoeddwyd seneddwyr Ffrainc nad oedd bosibl mwyach godi digon o filwyr newyddion i