Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awdurol: er hyny, y mae rhyw bethau ynddo yn ddiffygiol at ei wneyd yn gwbl gymeradwy ac effeithiol. Yn un peth, ysgrifena yr awdwr gyda rhyw naws rhy ysmala a chellweirus, hyd yn oed pan gyfeiria at amgylchiadau pwysig; megys yn hanes y meddwdod ar achlysur yr Arwerthiad cyhoeddus yn nghartref yr arwr, desgrifia olygfa o anfoesoldeb a gloddest ffiaidd, mewn rhyw ddull rhy ysgafn a digrif i enyn atgasrwydd yn y darllenydd at y cyfryw ddrwg-arferion; yr un difaterwch ysmala a ddengys gyda yr "Hen Fibl Teuluaidd" a'r "Ynad annuwiol;" a hefyd yn yr olygfa yn y "Lion," ddiwrnod marchnad; ynghyda 'r adnod ddyfynedig o'r Bibl: dadblygir drygedd dirfawr yn yr amgylchiadau, ond mewn dull rhy geilweirus a digrif, i beri i'r darllenydd eu ffieiddio; yr hyn yw gwir ddyben ac amcan ffug-chwedlau fel hyn, debygid.

Peth arall yw, y mae yn cadw ei arwr ormod o'r golwgnid ydym yn cael digon o olwg arno, i wneyd allan ei garitor fel y dymunem. Mewn ffug-chwedl, fel mewn chwareu-farddoniaeth, mae y personau i gael eu dwyn i weithredu, megys ar esgynlawr ger ein bron, ac nid i'w cadw tuhwnt i'r llen, a'r hanesydd yn sefyll i fyny i'w desgrifio ei hun, a dweyd wrthym pa fath rai ydynt, a pha fodd y maent yn ymddwyn. Cedwir ni ormod oddiwrth brif ysgogiadau y pleidiau sy ar y chwareu, gan ryw ddygwyddiadau ail-raddol, megys yr arwerthiad, y dychweliad adref, &c.

Nid yw yr helynt gyda'r llyfr "seinio," a'i ddarluniad o'r areithydd O'Brien, wedi eu tynu yn y fath fodd ag i enill serch at achos Dirwest. Mae priodoldeb rhai pethau yn rhanau blaenaf araeth ddirwestol Dr. Jarman yn ammheus, megys y gyffes gerbron cynulleidfa, y cyfeiriad