Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyddiad y moddion dirwestol at sobri meddwon; ac er i fam Llewelyn, a'i chwaer, ac yntau ei hun ddyfalu yn eu meddyliau lawer gwaith, nad oedd dim a wnai y tro ond llwyrymataliad i sefydlu diwygiad parâol, nid oedd dull y byd y pryd hyny yn caniatau i Llewelyn feddwl am y fath beth od a mympwyol. Modd bynag, pan y mae ein harwr, wedi ei guro yn nhrigfa dreigiau, a'i myned yn llongddrylliad arno fil o weithiau, yn awr yn min boddi am byth yn môr y gyfeddach, dyma DDIRWEST fel rhyw life boat rhagluniaethol yn dyfod heibio, ac yntau yn neidio iddo, ac yn cyrhaedd glan adferiad, dedwyddwch, a hawddfyd. Mae yr ysgrifenydd yn ffughanesydd campus, ceidw y dyddordeb i fyny yn rhagorol; gweithia allan ei gymeriadau i berffeithrwydd; a dengys y maglau a'r rhwydau, y brâd, a'r dichellion, y cynllwynion a'r hudoliaethau, a amgylchant ieuenctyd, trwy gymeriadau hollol debygol a naturiol, y rhai y mae pawb yn gynefin a hwynt; ond ychydig yn eu drwgdybio, ac yn eu gochelyd. Wrth ei ddarllen nis gall ieuenctyd lai na dychryn, wrth weled yr hoenynau a osodir i'w dala, a dysgant yn awyddus a llwyddiannus, y moddion o hunan-amddiffyniad, a ddengys yr awdwr iddynt. Ysgrifena yn gryf a bywiog, gan amlygu coethder a dillynder mewn arddull, iaith, a chwaeth. Y mae ganddo feddwl heinif, dychymyg hoyw ac ystwyth; ei gynllun sydd gywrain, a chelfyddgar, y cymeriadau a'r gweithrediadau yn gyson a thebygol; nid yn fynych y dangosir craffach adnabyddiaeth o ddynolryw, a'u tueddiadau, a'u harferion: a dysgwyliwn i y byddai y traethawd hwn, pe cyhoeddid ef, yn debyg o enyn cymaint o eiddigedd dros ryddad y meddwon, ac a enynodd "Uncle Tom" dros ryddad y caethion.

6. "Gwraig y Gweithiwr." Dyma "HARRIET BEECHER