Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ifan Llwyd, dan dynu ei ben megys o'i blu, ac felly bradychu pâr o lygaid mor feirwon a dau lwmp o biwtar, gwefusau sychedig, tewion, crogedig, a atebodd,—

"Yn wir Llewelyn, yr wyf nid yn unig yn edrych yn druenus, ond yn teimlo fy hun felly, wel' di. Y mae fy safn ar dân, a fy nghorph fel pe bae y ragsus yn penderfynu ei ddarnio, er gwaethaf tes yr haul. Doro bres peint, yr hen gyfaill, neu mi fyddaf farw!"

"Buasai 'n dda genyf allu gwneyd rhywbeth trosot, yn wir, Ifan; ond, ar fy nghydwybod, nis gallaf roi pres peint i ti."

"Wyt tithau hefyd wedi bod ar dy sbri, ac wedi gwario'r cwbwl?"

"Nac ydwyf, trwy drugaredd, ond yr wyf wedi 'seinio dirwest,' ac yr wyf yn penderfynu dal yn ffyddlon i fy ardystiad, doed a ddelo; ac ni fuasai dim yn well genyf na dy weled dithau wedi gwneyd yr un peth."

"Felly, gwir oedd y stori a glywais i yn nhafarn Efel Fawr, ar fy nychweliad i'r pentref yma ar ol bod i ffwrdd am gyhyd o amser? Ac nid bychan y sbort a gawsom ar dy draul di yr amser y clywais gyntaf. Tyngai un na ddaliet ti yn ditotal am fis; arall a ddywedai y byddit ti farw fel ffwl ar ol rhoi'r gore' i eli'r galon; a finau, ymhysg eraill, a ddywedwn dy fod mor benfeddal a meipen wedi llygru, yn cym'ryd dy hudo gan ffyliaid sy'n myn'd ar hyd a thraws y wlad i siarad lol yn nghylch dirwest y naill wythnos ar ol y llall."

"Felly 'n wir!" meddai Llewelyn Parri, yn ddigon didaro. "Yr oeddych i gyd yn rhy fychain o philosophyddion y tro hwnw, beth bynag. Dyma fi wedi dal am dros dair blynedd yn ddirwestwr; ac yn lle 'marw fel ffwl,' yr wyf yn myn'd yn iachach y naill ddydd ar ol y llall. A phe buaset tithau wedi gwneuthur yr un peth ag a wnaethum i, fuasai raid i ti ddim bod â'r olwg yna arnat ti, Ifan bach."

"Ond waeth hyny na chwaneg," ebe Ifan, "yr wyf yn addaw y munud yma, pe gwelwn i heddyw trosodd, na feddwwn i byth ond hyny. Dyro fynthyg pres peint i mi, neu mi af yn wallgo', gyn wired a'm geni!"

"Mae 'n ddrwg genyf na's gallaf," atebai Llewelyn. "Ond mi ddywedaf i ti beth a wnaf â thi. Dos i Frynhyfryd, a dywed wrth Morfudd mai myfi a'th yrodd; gofyn am ddwfr i ymolchi, a gwely i orwedd ynddo am awr neu ddwy. Mi fyddaf adref erbyn amser boreufwyd, a chawn siarad hefo 'n gilydd beth i'w wneyd. Yn awr, rhaid i mi