fwy felly heno nag erioed braidd. Heblaw ei bod ar fedr ei golli am chwe' mis—ai tybed am fwy?—yr oedd rhywbeth yn fwy bywiog yn ei lygaid—gwrid mwy yn ei fochau—a ffraethineb mwy nag arferol yn dod allan o'i enau. Pa beth oedd yr achos? Ah! druan o Gwen Parri, yr oedd hi yn rhy ddiniwed i feddwl fod y gwin a'r brandi wedi cael cymaint o effaith arno: nid oedd dysgleirdeb swynol ei lygaid—pelydr bywiog ei wên—swyn anarferol ei dymher—bywiogrwydd digyffelyb ei arabedd—nid oedd y cyfan ond effaith fflam benthyg—brydferth, ond llosgadwy—fflam o'r tân yn y cwpan a'r gwirod. Ni aflonyddai drwgdybiaeth am hyny ddim hyd yn hyn ar ddedwyddwch, ac ni thaflai yr un cysgod ar ael dyner y wraig ddifeddwldrwg yr hon a edrychai ar ei gŵr gyda golygon angelaidd.
Pan oedd y ddau'n cofleidio'u gilydd yn ngwres eu cariad, disgynai llef uchel ar eu clustiau, yn cael ei dilyn gan ysgrech oddiwrth un o'i morwynion. Rhedodd Mrs. Parri o'r ystafell i edrych beth oedd y mater, pan, er ei dychryn, y gwelai Llewelyn bach ar ei hyd ar y llawr, wedi syrthio, yn ol pob ymddangosiad, mewn ffit. Ni fu ond ychydig fodfeddi rhyngddo a syrthio ar ei wyneb i'r grât. Cyfodwyd ef i fyny'n ebrwydd gan ei fam ddychrynedig. Rhoddodd honno ysgrech dros y tŷ wrth edrych ar ei wyneb wedi troi mor welw, a'i lygaid fel wedi sefyll yn ei ben. Tybiodd yn sicr ei fod yn myned i farw. Ond yn mhen ychydig funudau, fe gafwyd allan fod yr hogyn wedi ysgubo'n ddirgelaidd i'r ystafell giniaw ar ol i'r cwmpeini ymadael o honi, ac wedi helpu ei hun o'r brandi a adawyd, nes meddwi am y tro cyntaf erioed. Pan ddeallodd ei dad hyny, nis gallai beidio chwerthin, a dywedai gyda gwên foddgar:
"Y mae'r lluman bach wedi bod yn yfed iechyd da i mi ar ei ben ei hun, welwch chwi, Gwen. Y rôg bychan! Ond nis gwyddai'n amgen; ac felly rhaid pasio heibio am y tro."
Ah! gwyn fyd na cheid byth achlysur i "basio heibio" ond hyny!
Pa fodd bynag y teimlai'r tad wrth weled ei blentyn hynaf wedi meddwi, yr oedd yn amlwg fod y fam wedi ei harcholli'n ddwys; a phrysurodd i roddi'r troseddwr ieuanc yn ei wely. Gwyliodd uwch ei ben nes iddo gysgu; a daeth llawer pang i'w chalon wrth ganfod ei wynebpryd hyd y llwyd a'i wefusau gwelwon. Cysgodd yr hogyn yn drwm hyd y bore, ac ni ddeffrôdd i weled ei dad yn myned i ffwrdd. Pan agorodd ei lygaid o'r diwedd, yr oedd ei fam