Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/31

Gwirwyd y dudalen hon

yn eistedd wrth erchwyn ei wely, yn wylo'n ddystaw bach. Yr oedd y plentyn yn bur sal erbyn hyn. Profodd llawenydd y noson gynt yn ormod i'w gyfansoddiad ieuanc ei ddal heb dderbyn niwed nid bychan. Hyn, yn nghyd a'r ymwybyddiaeth fod ei hanwyl wr wedi myned o'i gafael am fisoedd meithion, i wlad bell, ac i wyneb peryglon themtasiynau newyddion, a wnaeth i galon Gwen Parri fod yn drom y boreu hwnw.

Ond i basio'r amser heibio'n ddifyr a defnyddiol, hi a benderfynodd gysegru rhan helaeth o hono i addysgu Llewelyn yn elfenau cyntaf gwybodaeth, fel ag i synu ei dad ar ei ddychweliad gartref; a phenderfynodd hefyd ddefnyddio peth o'i hamser at barotoi dillad man-wnïadwaith a'i llaw ei hun, i'w wisgo mewn anrhydedd i ddychweliad y rhïant hoff.

Oddiwrth y myfyrion hyn, rhedai ei meddwl yn mhellach fyth i'r dyfodiant tywyll ac annhreiddiol. Tynai ddarlun tlws yn ei meddwl o Lewelyn bach wedi tyfu'n llanc glandeg, pan fyddai wedi gadael heibio ei siaced fraith hogynaidd, a'i gap pluog, a dyfod yn ddyn hardd fel ei dad, ac, fel yntau, yn ennill parch pob gradd a sefyllfa.

Oh, mor brydferth y medr mam dynu darlun o'r fath hyn! Pe cai haner ei rhagobeithion hi am ei phlentyn eu sylweddoli, efe a fyddai'n anrhydedd i Dduw a dyn. Ond, Och! mor fynych y mae mamau yn syrthio i'r bedd mewn siomiant! Wedi treulio blynyddoedd yn gwneyd ei goreu i ddwyn ei bachgen i fyny "yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd," ac arllwys i'w feddwl syniadau rhinweddol, tyner, a charuaidd, dichon y bydd i'r temtiwr mewn un noson ddadwneyd ymdrechion blynyddoedd, a thynu gwrthddrych serch a gofal y fam i sefyllfa ddiraddiol meddwyn.

Pa fodd bynag, yr oedd yn dda i Mrs. Parri gael rhywbeth i loni ei chalon a chadw i fyny ei hysbrydoedd yn yr amgylchiad yma, pan oedd ymadawiad ei gŵr a selni ei bachgen megys yn cytuno i'w thynu i lawr. Ac wrth feddwl am ei gynydd dyfodol, hi a wenai trwy ei dagrau; ac fe ddeffrôdd Llewelyn i dderbyn cusan llawn melusder thynerwch mamaidd.

Gyda gofal nid bychan, a golafur cyson yn yr awyr agored, fe ddaeth Llewelyn dros effeithiau ei sbri toc. Ail ddechreuodd chwareu o gwmpas y tŷ mor chwim ag eilon ieuanc. Ac nid bychan y pleser a gaffai Mrs. Parri wrth ei gymeryd yn y boreuau i ben y bryn o'r tu ol i'r dref, neu hyd lan yr afon i'r ochr arall, a sylwi ar ei wyneb llon, ei wefus goch, ei lygad bywiog, a'i dymher addfwyn, bob dydd yn dyfod i fwy o berffeithrwydd.