liniau a'i freichiau yn ei ymdrech ddiweddaf—heb neb i roddi gair o gysur i'w enaid! A gorweddai hithau yn ei gwely digysur, gan ddysgwyl ei thynged ei hun: nid ymddangosai yr un edef o drugaredd wedi ei gadael, trwy help pa un y gallasai ddringo i fywyd yn ol. ****** "Ai gwir yw fod Mr. Meredydd Parri wedi marw yn New York?" gofynai cyfaill i gymydog ag oedd yn myned allan o dŷ Mrs. Parri.
"Ië, digon gwir, ysywaeth," oedd yr ateb.
"O ba glefyd y bu farw?"
"O glefyd y ddïod, y mae arnaf ofn."
Sut felly?"
"Wel, mae'n ymddangos ddarfod iddo syrthio i gweryl A rhyw Americanwr, mewn perthynas i ryw bwnc masnachol o'u heiddo. Yr oedd y ddau'n drwm mewn diod. Yn mhoethder y gwirod, dywedodd Mr. Parri rywbeth nad oedd yn ei feddwl—rhywbeth ag y buasai'n gofidio llawer yn ei gylch, pe y cawsai hamdden i sobri. Yr oedd ef yn ŵr boneddig o'r iawn ryw, yn mhob peth braidd; ond pwy a all ateb am ymddygiad dyn meddw? Ac yr oedd yntau, fel yr ymddengys, wedi meddwi hyd wallgofrwydd. Aeth y ddau feddwyn yn mlaen mor bell yn y cweryl, nes y daethant i'r penderfyniad o setlo'r mater trwy rym min y cleddyf. Felly fu. Ymladdwyd gornest. Brathwyd Mr. Parri dan ei bumed ais, a syrthiodd i lawr yn gorph marw!"
"Y fath wers ofnadwy!" meddai'r dyn arall. "Dyn yn cael ei yru felly i wyddfod ei Farnwr heb gael rhybudd i ymbarotoi; un arall yn agored i gael ei boeni am oes â'r ymsyniad erchyll o fod wedi cymeryd ymaith fywyd ei gyd—ddyn—bywyd dyn ag oedd ond prin yn atebol am yr hyn a ddywedai nac a wnelai ar y pryd! Y fath fywyd disglaer, yn diflannu yn y fath gaddug o warth! Meddwl mawr yn cael ei daflu oddi ar ei echel, dan effaith gormod o wirod!—calon urddasol yn cael ei hamddifadu o'i churiadau tyneraf!—ac enaid gwerthfawr yn cael ei hyrddio i'r glorian tra'r dyn mewn cyflwr o feddwdod! O ddiwedd truenus!"
Dyna fel y bu farw tâd ein harwr, yn ngogoniant ei ddyddiau.