Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/56

Gwirwyd y dudalen hon

barotoadau hyn, o herwydd gwyddai o'r goreu nad aethpwyd erioed i'r gôst a'r drafferth i wneyd y fath ddarpariadau, gyd â'r disgwyliad am i'r cwmni dori i fynu'n gynar, fel yr addawyd iddo ar y cyntaf. Gwyddai hefyd ei wendid ei hun, a'i anallu i wrthsefyll temtasiwn pan fyddai gwirod mewn cyrhaedd. Pa fodd bynag, addawai wrtho 'i hun un ymdrechu drechu cadw o fewn terfynau cymedroldeb.

Yn anffodus i'n harwr, nid oedd ei gyfeillion yn teimlo yr un gochelgarwch ag ef; a gwnaent eu goreu i gael ganddo yfed mwy nag oedd briodol, hyd yn oed yn y dyddiau hyny. Gwyddai o'r goreu ei berygl—teimlai ei hun yn llithro—i lawr y gwelai ei hun yn myned er ei waethaf, ac yn ei fyw nis gallai atal ei hun. Nid oedd yn un o'r rhai cryfaf i ddal diod, ond ychydig iawn a wnai'r tro i'w feddwi. Wrth ystyried hyn, ymdrechai yfed gyn lleied ag oedd bosibl.

Ond pa fodd y gallai gadw 'i hun rhag bod yn agored i gael ei ystyried gan ei gyfeillion yn ofnus merchedaidd? Yr oedd Llewelyn yn falch yn gystal ag yn addfwyn; ac ni fynai er haner ei etifeddiaeth i neb dybied ei fod yn wanach na'r gweddill o'r cwmpeini. A'r teimlad hwn a gafodd yr oruchafiaeth, fel y bydd yn cael braidd bob amser ar fechgyn ieuainc pan yn cellwair â pherygl. Felly, yfodd nes anghofio 'i fam a Gwen bach, yn yr adeg ag yr oedd mwyaf o anghenrheidrwydd am iddo'u cofio. Pan gyfodwyd oddi wrth y bwrdd, teimlodd ei hun, a gwelodd pawb eraill, ei fod yn feddw. Ymddygodd ar y cyntaf yn hollol foneddigaidd wedi hyny aeth yn ffraeth a sïaradus—ac o'r diwedd aeth yn afreolus ac ystyfnig. Ond chwareu teg iddo ef, prin y gellid dweyd fod y lleill fawr well nag yntau; yr oedd y ddïod wedi cael effaith arnynt oll, oddi eithr Walter, yr hwn a gadwodd well rheol arno 'i hun.

"Wel, gyfeillion llon," meddai Llewelyn mewn ymadrodd bloesg, "addawsoch y caem gân neu ddwy; rwan am dani hi."

"Clywch, clywch," llefai'r cyfan.

"Foneddigion," ebe Bili Vaughan, "yr wyf yn cynyg ar fod i Mr. Llewelyn Parri ein hanrhegu â chân."

"Rydw i'n eilio'r cynygiad," meddai Ifan Llwyd; "pawb sydd o'r un feddwl, coded ei law."

Cododd pob un ei ddwylaw, a dechreuodd Llewelyn ganu, er mawr adeiladaeth y brodyr teilwng, fel y gellid tybied, wrth eu gweled yn gwrando â'u cegau:—