cyn i'r ddau fachgen ddod i lawr am dano. Ond daeth y ddau i lawr; ac nis gallai Llewelyn beidio gwrido at eu glustiau wrth wynebu ei fam—yr oedd ei euogrwydd yn pwyso'n drwm arno: disgwyliai gael gwers dda am ei ymddygiad; ac nid oedd dim mwy annymunol ganddo na chyfarfod â'i golygon treiddgraph yn tremio arno, fel pe buasai yn ceisio darllen dirgelion ei galon. Gallodd Walter feddiannu ei hun yn well—ymddygai yn berffaith dawel a moesgar, fel arferol, ac ni fuasai neb yn meddwl, wrth edrych arno ef, fod dim o'i le wedi digwydd.
Braidd nad oedd yn dda i Mrs. Parri, fod Llewelyn mor wridog pan ddaeth i lawr, neu buasai'n dychrynu wrth weled mor llwyd oedd ei mab. Ond wedi i'r gwrid gilio o'i wyneb, hi a ganfyddodd yr holl ddirgelwch; nis gallai amheuaeth fod yn ei meddwl mai effaith yfed i ormodedd oedd y gwefusau llaesion—y llygaid trymion—y gwyneb llwyd y llaw grynedig, a arddangosai Llewelyn y bore hwnw. Tebyg ei bod yn rhy drallodus i siarad llawer; dichon hefyd nad oedd yn dymuno darostwng ac israddio ei mab yn mhresenoldeb Walter. Cymaint a ddywedodd oedd,
"Buoch allan trwy'r nos, onid do, fy mechgyn i?"
"Wel, y gwir am dani hi yw, fy mam," meddai Llewelyn, dan wrido drachefn, "ddarfod i ni gyfarfod â pharti o hen gymdeithion i mi, y rhai oeddynt yn myned i'r wlad, ac fe'n temtiwyd ninau i fyned gyd â hwy gyn belled â chartref Bili Vaughan. Cawsom swper yno; aethom dros rai o hen streuon ein hieuenctid; ac achosodd hyny i ni fod yn bur hwyr cyn gallu cyrhaedd cartref. Gobeithio na ddarfu i chwi a Gwen aros ar eich traed i'n disgwyl."
"Ddim hwy na haner nos."
"Y mae'n ddrwg genyf i chwi gael achlysur i aros mor hwyr a hyny."
"Wyt ti'n sâl, machgen i? Yr wyt yn edrych felly. Oes rhywbeth yn dy flino?"
"Dim byd o bwys. Ond yr wyf yn meddwl i mi gael anwyd lled drwm neithiwr, trwy fy mod yn anghynefin a theithio dan awyr y nos, a minau heb ofalu am ddigon o gynhesrwydd, gan na fwriedais fyned i'r wlad. Yr oedd yr awel yn bur lèm," meddai Llewelyn, gan gadw ei lygaid ar y soser dê, rhag cyfarfod a thremiad ei fam.
"Poor Llewelyn!" meddai Gwen bach, a'i llygaid yn llawn o ddagrau serch, gan feddwl fod Llewelyn yn dweyd y gwir am natur ei selni.
Wedi i'r boreufwyd fyned trosodd, aeth Mrs. Parri a'i