merch allan, ar ryw neges haelionus, gan adael Walter yn unig gyda Llewelyn yn y parlwr. Rhyddhad mawr oedd hyn i'r ddau. Gyn gynted ag y cawsant y tŷ iddynt eu hunain, taflodd Llewelyn ei hun ar y soffa gydag ochenaid. Cyn pen hir, dywedodd Walter wrtho,
Wyddoch chwi beth, Llewelyn? mae'r eneth yna Gwen eich chwaer—yn un o'r creaduriaid mwyaf nefolaidd y disgynodd fy llygaid arni erioed."
"Ydyw, o ran corph a meddwl," meddai Llewelyn. "Nid oes neb ond y sawl sydd yn yr un sefyllfa a mi yn gwybod mor drwyadl yr wyf yn ei charu. Ni fynwn er dim iddi gael yr un achos i boeni y gradd lleiaf o'm herwydd i. Gwyn fyd na fa'i yr hen drafferthion Colegaidd yma drosodd! fe gaech chwi a phawb eraill weled Llewelyn Parri yn llawer gwell dyn wed'yn. Yr wyf yn penderfynu cadw fy hunan yn uchel yn meddwl fy chwaer."
"O, gwyn fyd na fa'i genyf fi'r fath angyles i ddylanwadu ar fy henderfyniadau!"
"Fyddai'n dda genych chwi hyny?"
"Byddai yn fy nghalon."
"Wel, mi ddywedaf i chwi beth, Walter, ac yr wyf braidd yn sicr na fydd i mi fethu wrth ei ddweyd:—yr wyf yn meddwl yn sicr y bydd i chwi eich dau—chwi a Gwen syrthio mewn cariad â'ch gilydd pan ddaw hi dipyn hynach, a phriodi wed'yn. Dyna ddrychfeddwl campus, onid ê?"
"Campus yn wir—rhy brydferth—rhy ddysglaer i fod yn wirionedd, mae arnaf ofn. Ond, a gawsoch chwi unrhyw le i feddwl y byddai i Gwen fy hoffi fi?"
"Ddywedodd hi erioed mo hyny—mae hi'n rhy ddiniwed a simple i beth felly eto. Ond beth pe gwelsech ei llygaid pan oeddych yn chwareu'r piano ac yn dadganu, y dydd o'r blaen! Yr oedd digon o brawf yn hyny i mi fod gyn hawdded cynneu'r fflam o gariad rhyngoch chwi a'ch gilydd, ag a fyddai enyn tân hefo callestr yn nghanol ystordŷ powdwr."
"Wel, Llewelyn, yr wyf fi'n barod—fi yw'r powdwr; ond gobeithio na fydd iddi hi fod gyn galeted a challestr chwaith. Ond cofiwch fy mod i yn tyngu, o'r mynyd hwn, mai eiddo Gwen Parri a fyddaf fi, neu ni fyddaf yn eiddo neb byth. Ond eto mae arnaf ofn na fedraf byth enill ei chydsyniad hi."
"Os na fedrwch chwi, fy nghyfaill," meddai Llewelyn, "mi fedraf fi ei thueddu i dderbyn llaw'r neb a fynwyf. Nis gall Gwen bach lai na charu pwy bynag a garwyf fi."