Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/66

Gwirwyd y dudalen hon

"Rhaid i mi gael un; ac wedyn mi af allan," meddai'r meddwyn.

"Mae'n rhaid ê? Cei wel'd hyny yn y munud," ebe'r gŵr, gan agoshau at Harri gyd â golwg llidiog.

Gwelwyd cyfnewidiad yn cymeryd lle, nid yn unig yn ngwyneb, ond hefyd yn holl gorph Harri Huws y foment honno. Y llaw oedd ychydig eiliadau cynt yn ysgwyd fel deilen, oedd yn awr yn edrych mor ddisigl a chraig; cododd ei gorph i sythder cawr, ac ymwibiai ei lygaid mewn llidiogrwydd, ail i gadfarch. Erbyn hyn yr oedd Mr. Martin yn sefyll yn union yn ei wyneb.

"A wyt ti am adael y tŷ yma rhag blaen?" gofynai'n awdurdodol.

"Nid cyn cael glasiad o rum," oedd yr ateb.

"Felly, nid oes dim i'w wneyd ond dy gicio dros y drws, fel pel droed."

"Nid oes yma a fedr wneyd hyny!"

"Wel, os nad ei di, heb 'chwaneg o lol, mi dynaf dy groen oddiam dy gefn! Y brych gwirion! pwy sydd i gym'ryd dy dafod drwg di? Dos allan!"

"Peidiwch cyfhwrdd â mi, Mr. Martin!" meddai Harri, "mae'r diawl yn fy nghorddi, ac ni fyddai dim mwy genyf eich lladd nag edrych arnoch! Peidiwch fy nhemtio!

"Y ffwl!" llefai'r tafarnwr, gan gydio gafael yn ei goler, a cheisio 'i lusgo oddiwrth y bar. Prin yr oedd ei law wedi cyfhwrdd âg ef, nad oedd y meddwyn wedi neidio ar ei ymosodydd fel llewpart, a thaflodd ef ar y llawr gan roddi ysgrech hell. Plygai John Martin o dano fel brwynen, a chydiai Harri afael yn ei wddf, fel pe am ei dagu ar unwaith. Trodd y meddwyn egwan i fod yn ellyll o ran nerth. Fe'i trawsffurfiwyd, mewn mynyd, o fod yn ddyn cyffredin, i ymddwyn fel cythraul cythruddedig. Daliai ei elyn ar y llawr mor ddiysgog a phe buasai'r Wyddfa'n pwyso arno.

"Paid a lladd fy ngwr!" llefai Mrs. Martin, gan redeg allan i floeddio am geispwl.

"Martin!" meddai Harri; "mi ddywedais fod y diawl yn fy nghorddi. Mi fedrwn eich lladd rwan gyn hawsed a phoeri i'ch gwyneb. Ond os rhoddwch wydriad o ddïod i mi, gollyngaf chwi'n rhydd heb yr un niwed."

"Rhof!" Ilefai Martin. A chyn gynted ag y cafodd ei hun yn rhydd, neidiodd at y jar rum, a rhoddodd hi i Harri fel yr oedd. Rhuthrodd hwnw allan hefo 'i ysglyfaeth dan grochfloeddio; ac ni thynodd y llestr oddi