Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/75

Gwirwyd y dudalen hon

Mrs. Parri. "Ac yr wyf fi yn credu y rhydd Duw yn nghalonau rhyw bobl dda i ffurfio cymdeithas felly cyn bo hir. Y mae llwyr anghen am dani; a gobeithio y bydd i ferched gael llais a dylanwad i'w hyrwyddo—caiff y byd wybod fy mod i yn wresog o'i phlaid; ac yr wyf yn sicr y byddai Gwen bach felly hefyd, oni fyddit ti fy ngeneth i?"

"Byddwn yn wir, mam."

"'Rwan, Llewelyn bach, dos i dy ystafell a throcha dy ben mewn dwfr oer, er mwyn adloni tipyn arnat dy hun, ac mi barotoaf finau gwpanaid o dê da erbyn y deui i lawr. Gwnaiff hyny les i ti."

Pan adawyd Mrs. Parri iddi ei hun y dechreuodd deimlo yn iawn o herwydd yr amgylchiad newydd yma. Pan glywodd hi am y cwymp diweddaf yma o eiddo 'i mab, daeth yr adgof am ddiwedd truenus ei dad i'w meddwl gyda grym mawr, nes llenwi ei chalon â rhyw ias o arswyd, rhag mai megys ei ddiwedd ef y byddai diwedd Llewelyn. Teimlai ei hun megys yn cael ei throchi gan ymsyniad o berygl mewn môr iaog o ddychryn a braw.

Pan aeth Llewelyn hefyd i'w ystafell y teimlodd fwyaf oddi wrth ei fai. Buasai'n dymuno suddo trwy'r llofft yn hytrach na gorfod myned yn ol i wyddfod yr hon y gwyddai ei gydwybod ei fod wedi tori briw dwfn ar ei chalon, ac wedi siomi y disgwyliadau mwyaf awyddus a barddonol a allasai mam eu rhag—greu am ei chyntafanedig. Ar hyn daeth ei fam ato i'r ystafell, disgynodd ei llais cerddorol fel sŵn cerub maddeugar ar ei glust, gan ddywedyd,—

"Fy anwyl fachgen, y mae'n bryd i mi roddi gair o gysur i dy feddyliau trallodedig. Nid wyf yn meddwl y bydd i ti byth gospi dy hun eto a'th ynfydrwydd. Paid rhoi dy galon i lawr. Er fod peth fel hyn yn bur annymunol, ac yn ddechreuad drwg, y mae genyf ddigon o amser i wella, ac nid oes genyf amheuaeth mai gwella a wnei." Eisteddodd wrth ei ochr, cusanodd ef yn wresocach nag arfero gwnaeth i'r llanc deimlo peth mor gryf ydyw cariad mam.

"Mam!" meddai" nid oeddwn yn disgwyl i chwi ymddwyn ataf yn y dull caredig yma. Yr ydych yn rhy ddaionus a maddeugar! Y mae arnaf gywilydd o honof fy hun!"

"Dylai fod arnat dipyn o gywilydd, fy machgen," dywedai hithau gyd â gwên addfwyn.

"Ond y mae eich dull tyner chwi a Gwen tuag ataf, yn gwneyd i mi deimlo fy euogrwydd yn gân trymach nag o'r blaen!"