coleg. Ond yr oedd Walter yn hen gynefin o ffurfio esgusodion, a gosod lliw da ar ei ymddygiadau ei hun, pan, efallai, y buasent yn ymddangos, pe yn eu lliw eu hun, gyn hylled a phechod. Gwnaeth i Lewelyn gredu nad oedd ganddo ef law yn y byd yn y fradwriaeth. Addefodd ei fai am ei wahodd i'r swper, ac am ymuno yn y digrifwch, ond haerodd iddo wneyd hyny heb feddwl yr un drwg. Y canlyniad fu, i Llewelyn adfeddiannu ei holl hen ymddiried yn Walter, ac aethant yn awr yn well cyfeillion nag erioed. Nid oedd gan Lewelyn gyfaill cywirach a ffyddlonach na Walter yn yr holl fyd; ac nid oedd yr un dyn dan dywyniad haul ag y gofalai Walter gymaint am dano ag a wnai am ein harwr.
Gresyn garw na fuasai modd argyhoeddi Llewelyn druan o fwriad y cnâf boneddigaidd yn ymdrechu adffurfio'r gyfeillach. Ond pe y dywedasid wrtho, dichon na fuasai'n credu. Er fod Walter yn ymddangos y fath foneddwr, ychydig iawn o arian a gaffai at ei law ei hun, o herwydd yr oedd ei ewythr yn rhy hoff o gwmpeini'r pethau anwyl hyny, i ymadael ond a chyn lleied ag a fyddai raid. Teimlai Walter fod hyn yn anfantais fawr iddo ef, ac yn atalfa gref ar ei falchder. O ganlyniad, dymunol iawn fuasai gwneyd twlsyn o Lewelyn Parri, a myned i'w bwrs ef dan fantell cyfeillgarwch.
Yr oedd Llewelyn yn yr adeg yma, yn gweithredu fel cynnorthwywr i Mr. Powell, ei warcheidwad, yn ei swyddfa.
Tybiodd Mr. Powel, a Mrs. Parri, mai gwell oedd iddo wneyd hyn, er mwyn cadw ei feddwl ar bethau a wnaent les iddo, a pherffeithio 'i hun yn y gyfraith, er mwyn bod yn alluog i gymeryd lle Mr. Powell, pan elai ef yn rhy hên i gario 'i fusnes yn mlaen. O'r swyddfa yr oedd yn dyfod pan gyfarfyddodd Walter âg ef.
Yn fuan ar ol yr adnewyddiad yma ar gyfeillgarwch Llewelyn a Walter, fe ddechreuodd y cyntaf fyned yn fwy diofal yn nghylch ei ddyledswyddau—aeth i aros allan yn hwyr y nos, ac ni cheid ganddo ddweyd yn mha le y treuliai ei amser—deuai i lawr yn hwyr at ei foreufwyd, gyda gwyneb llwyd a llygaid meirwon—poenai ei fam a Mr. Powel yn fynych am arian—yr hyn oll a wnai i galon ei fam guro mewn pryder am ei mab. Ofnai nad oedd dim daioni i ddyfod o arferion fel hyn. Rhybuddiodd ef yn fynych, gyda'r tynerwch ag oedd mor naturiol iddi hi. Ni thyciai ei holl rybuddion, ac elai ei holl gynghorion yn ofer—disgynai ei dagrau i'r llawr yn ddieffaith. Parhau